Digwyddiad Aml-chwaraeon Addysg Bellach ColegauCymru, Y Rhyl

IMG_0638.jpg

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ein trydydd digwyddiad Aml-chwaraeon Addysg Bellach ym Mhen-bre yn gynharach eleni, mae ColegauCymru yn falch i gynnal digwyddiad Gogledd Cymru yn y Rhyl ym mis Hydref. 

Dyddiad: 3 Hydref 2023 
Lleoliad:
Marsh Tracks, Y Rhyl

Bydd y digwyddiad rhanbarthol hwn yn canolbwyntio ar ymgysylltu â dysgwyr addysg bellach a staff yn ein colegau yng Ngogledd Cymru, Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Cambria. Bydd partner newydd Actif Gogledd Cymru yn cefnogi'r digwyddiad fel y cyswllt rhanbarthol newydd ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau cymunedol yng Ngogledd Cymru. 

Mae'r ddeuathlon cynhwysol yn rhoi cyfle i bob dysgwr a staff mewn lleoliadau addysg bellach gymryd rhan yn eu digwyddiad aml-chwaraeon cyntaf. Mae digwyddiadau blaenorol wedi croesawu cyfranogwyr yn amrywio o ddysgwyr Sgiliau Dysgu Annibynnol (SBA) yn mwynhau her gweithgaredd grŵp am y tro cyntaf hyd at ddysgwyr a staff yn cystadlu ar lefel elitaidd. 

Mae’r ddeuathlon yn cofleidio egwyddorion Strategaeth Lles Actif ColegauCymru, sy’n ceisio helpu Cymru i ddod yn genedl iachach a mwy actif. Mae'r digwyddiad wedi'i gynllunio i annog cyfranogwyr i wella eu lles trwy gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgaredd corfforol gyda'u cyfoedion, gan adeiladu gwydnwch a sgiliau cymdeithasol yn y broses. 

Mae Marsh Tracks yn y Rhyl yn lleoliad gwych ar gyfer y digwyddiad gyda chylchffordd gaeedig 1.25km yn ddelfrydol ar gyfer beicio a rhedeg yn ddiogel. Mae'r lleoliad yn ganolog i'r ddau goleg yng Ngogledd Cymru a bydd yn anelu at hyrwyddo defnydd o'r trac yn y dyfodol gan weithio'n agos gyda phartneriaid digwyddiadau. 

Dywedodd Rheolwr Prosiect Llesiant a Chwaraeon ColegauCymur Actie, Rob Baynham,

"Mae Aml-chwaraeon Addysg Bellach Y Rhyl 2023 yn rhoi cyfle newydd cyffrous i ddysgwyr a staff o golegau Gogledd Cymru gymryd rhan yn eu deuathlon cyntaf. Mae’r lleoliad ar draciau Marsh yn y Rhyl wedi’i leoli’n ganolog i Goleg Cambria a Grŵp Llandrillo Menai a gobeithiwn fod hyn yn ddechrau taith lle gall mwy o bobl ifanc ar draws y rhanbarth gymryd rhan mewn gweithgareddau rhedeg a beicio fel rhan o’u bywydau coleg."

Partneriaid 

Mae ColegauCymru yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus ein partneriaid sy’n cynnwys Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Actif Gogledd Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Y Bartneriaeth Awyr Agored, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Grŵp Llandrillo Menai, Coleg Cambria a Chyngor Sir Ddinbych. Y gobaith yw y bydd y cydweithio hwn yn cefnogi'r digwyddiad i ddatblygu'n ddyddiad blynyddol yn y calendr addysg bellach. 

Mae’r digwyddiad yn cael ei reoli fel rhan o Brosiect Lles Actif ColegauCymru ac mae’n cysylltu â Chwaraeon Cymru a chyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Lles Actif mewn addysg bellach yng Nghymru. 

Gwybodaeth Bellach 

Cysylltwch â Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif, Rob Baynham, gydag unrhyw gwestiynau. 

Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.