ColegauCymru yn amlygu pwysigrwydd lles dysgwyr ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2023

mental-health.jpg

Heddiw rydym yn nodi #DiwrnodIechydMeddwlyByd. Mae’r sector addysg bellach wedi ymrwymo i flaenoriaethu iechyd meddwl ein dysgwyr a’n staff a fydd, yn ei dro, yn cefnogi unigolion a chymunedau iachach, a Chymru gryfach, fwy cydnerth.

Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl ac yn sbarduno newid cadarnhaol i iechyd meddwl pawb. Mae iechyd meddwl da yn hanfodol ar gyfer Cymru lewyrchus ac mae gan ein colegau addysg bellach rôl hanfodol i’w chwarae mewn sicrhau hyn.

Ein Hymrwymiad

Rydym wedi ymrwymo i flaenoriaethu cymorth iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth ar draws y sector addysg bellach. Dyma rai o’r pethau rydyn ni’n eu gwneud i helpu i wneud gwahaniaeth.

  • Rhoesom dystiolaeth ym Mhwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, yn galw am fwy o gydweithio rhwng addysg uwch, addysg bellach ac ysgolion i sicrhau pontio llyfnach; mwy o gyllid tymor hir ar gyfer cymorth iechyd meddwl a hyfforddiant mwy ystyrlon ar  gyfer staff; gwell mynediad at gymorth iechyd meddwl cyfrwng Cymraeg; ac ymagwedd system gyfan at iechyd meddwl a lles ar draws y sector ôl-16 er mwyn sicrhau profiad cyfartal i ddysgwyr ni waeth ble maent yn astudio.
  • Mae Strategaeth Lles Actif ColegauCymru yn pwysleisio pwysigrwydd gweithgaredd corfforol i gefnogi iechyd meddwl da dysgwyr ac i osod y sylfaen ar gyfer bywydau a chymunedau iach, gan wneud sylfaen gadarn ar gyfer gweithlu cryf.
  • Mae ein digwyddiadau lles actif a ariennir gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys yr Her Awyr Agored a digwyddiadau Aml-chwaraeon, yn sicrhau bod dysgwyr llai actif yn cymryd rhan mewn gweithgaredd, sydd yn ei dro yn cefnogi gwell iechyd meddwl.
  • Mae ColegauCymru wedi comisiynu ymchwil amrywiol ar werth lles actif - Cysylltu gweithgaredd, lles, a gwell iechyd meddwl ymhlith dysgwyr addysg bellach.
  • Grŵp Strategol Lles Actif ColegauCymru - yn canolbwyntio ar chwaraeon, gweithgaredd corfforol a materion lles yn y sector addysg bellach. Mae’r grŵp hwn yn trafod materion a phryderon perthnasol gyda’r nod o wella mynediad dysgwyr at weithgarwch, datblygu arfer dda a chyfleoedd creadigol i golegau ledled Cymru.
  • Drwy gydweithio â Phrifysgolion Cymru, Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr Cymru a’r Sefydliad Gwasanaethau Myfyrwyr, AMOSSHE, fe wnaeth ColegauCymru ddatblygu Argymhellion Polisi Iechyd Meddwl Ôl-16 i’w hystyried gan Lywodraeth Cymru.
  • Gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, rydym wedi creu ystod o adnoddau addysgu a dysgu ymarferol ym maes iechyd meddwl ar gyfer y sector addysg bellach. Mae'r rhain yn cynnwys podlediad ar ddatblygu gwytnwch; offeryn adnabod i fyfyrwyr ei ddefnyddio i nodi risgiau, gwytnwch a lles eu hunain; rhaglen Wellbot; cyrsiau hyfforddi ar gyfer staff cymorth; ac adnoddau i alluogi staff a dysgwyr i ddysgu technegau ar gyfer mecanweithiau ymdopi effeithiol, ymddygiad cymdeithasol cadarnhaol, pendantrwydd, cyd-drafod, gwneud penderfyniadau ac ymlacio.

Wrth i ni nodi #DiwrnodIechydMeddwlyByd, ymunwch â ni i barhau’r sgwrs am iechyd meddwl. I ddangos i bawb bod iechyd meddwl yn bwysig. A gadewch i bobl wybod ei bod hi'n iawn i ofyn am gymorth.

Gwybodaeth Bellach

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2023 

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.