ColegauCymru yn arwain ymweliad â’r Alban i archwilio datblygiadau a pholisi ar gydnabod dysgu blaenorol

pexels-cottonbro-studio-6334877.jpg

Roedd ColegauCymru yn falch o arwain dirprwyaeth o Gymru ar ymweliad â’r Alban ddechrau mis Ebrill, i archwilio eu gwaith ym maes cydnabod dysgu blaenorol (RPL). 

Aeth yr ymweliad a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru â dirprwyaeth o saith unigolyn o sefydliadau rhanddeiliaid ar ymweliad deuddydd â’r Scottish Credit and Qualifications Framework Partnership (SCQF) yng Nglasgow. Yma, mae Pennaeth Ymgyrchoedd a Datblygu Polisi Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru, Kay Smith, yn rhannu’r hyn a ddysgwyd ganddi o’r ymweliad. 

“Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn llawn prosiectau diddorol a gwaith datblygu yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru, gyda ffocws ar gefnogi cynlluniau peilot Cwricwlwm y Dinesydd, treialu cymorth a hyfforddiant ar gyfer newid gyrfa gyda New Futures, datblygu polisi ac arfer ESOL ochr yn ochr â gweithio gyda Partneriaethau Addysg Oedolion yn y Gymuned i gynhyrchu fframwaith ar gyfer arfer effeithiol. Felly, gyda’r gwahoddiad i ymuno â chydweithwyr yn yr Alban i archwilio’r polisi a’r arferion sy’n dod i’r amlwg yn y wlad mewn perthynas ag RPL, gwelsom ar unwaith y cyfle i ddefnyddio hwn i lywio ein gwaith presennol ac yn y dyfodol. 

Roedd y rhaglen yn cynnwys cyflwyniadau a oedd yn dangos sut roedd RPL yn cael ei weithredu a rôl yr SCQF wrth arwain prosiectau i archwilio adnabod sgiliau ac RPL ar gyfer grwpiau allweddol. Mae’r SCQF wedi arwain ar ystod o brosiectau i ddatblygu offer a meithrin gallu ar gyfer ymadawyr milwrol, ffoaduriaid, prentisiaid ac ar gyfer sefydliadau. 

Rwyf wedi bod â diddordeb yn y cyfleoedd i RPL gael ei ddefnyddio’n effeithiol i ehangu mynediad i addysg oedolion a dysgu gydol oes ers peth amser ac roedd yn ymddangos mewn meysydd gwaith datblygu ac ymchwil a wnaed gan NIACE (rhagflaenydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith). Atgyfnerthodd yr ymweliad werth RPL gan ei fod yn cydnabod gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau presennol dysgwyr. Mae'n galluogi dysgwyr i ddangos eu cymhwysedd heb o reidrwydd ymgymryd â dysgu ffurfiol ychwanegol. Yn y bôn, mae RPL yn galluogi unigolion i adeiladu ar eu harbenigedd a'u cymwysterau presennol. 

Mae nifer o ymarferwyr sy'n gweithio i gynnwys oedolion mewn dysgu pellach yn cydnabod bod diffyg hyder yn rhwystr mawr i rai. Mae’r broses RPL yn darparu ffordd strwythuredig o archwilio a nodi sgiliau a gwybodaeth nad yw dysgwyr efallai wedi’u nodi drostynt eu hunain. Gall fagu hyder yn eu galluoedd presennol a'u cymhelliant i symud ymlaen ymhellach. 

Amlygodd y drafodaeth a’r cyflwyniadau lawer o fanteision i ddysgwyr – gall fod arbedion amser a chost, gan alluogi dysgwyr i hepgor profiadau dysgu diangen. Os oes ganddynt wybodaeth neu sgiliau perthnasol eisoes, gallant osgoi ailadrodd gwaith cwrs a gall RPL ddarparu llwybrau mwy hyblyg i gydnabod sgiliau – gan gynnwys dysgu anffurfiol, hunan-astudio a phrofiad gwaith. Gall RPL ddarparu blociau adeiladu a chamau tuag at gymwysterau ffurfiol gan alluogi dysgwyr i symud ymlaen yn eu llwybr dysgu neu yrfa sy'n briodol i'w lefel cymhwysedd. 

Rwy’n gyffrous am y cyfleoedd ar gyfer RPL yng Nghymru ac amlygodd ein trafodaeth nifer o feysydd neu garfanau o ddysgwyr a allai elwa: 

  • Mudwyr a ffoaduriaid i alluogi dysgu carlam a llwybrau i gyflogaeth – gall hyrwyddo cynhwysiant trwy werthfawrogi gwahanol gyd-destunau dysgu, cefndiroedd a diwylliannau. 
  • Newid gyrfa a dilyniant – cydnabod sgiliau a enillwyd yn y swydd neu drwy ddysgu anffurfiol a gallai hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer diwydiannau pontio neu sectorau newydd. Roedd yr Offeryn Darganfod Sgiliau a ddatblygwyd ar gyfer ymadawyr milwrol yn yr Alban yn ffordd drawiadol o nodi a mapio sgiliau perthnasol. 
  • Mae darpariaeth dysgu fel teulu yn aml yn cyrraedd oedolion â lefelau isel o hyder ac ychydig o gymwysterau ffurfiol neu'r rhai sydd am ddychwelyd i'r farchnad lafur ar ôl amser i ffwrdd. Mae sgyrsiau yn aml yn datgelu llu o sgiliau a phrofiad a enillwyd trwy'r broses o redeg cartref, magu teulu, bywyd gwaith blaenorol neu wneud gwaith gwirfoddol. 

Er bod arfer presennol ledled Cymru o ran defnyddio RPL, ymddengys ei fod yn dameidiog, nid yn systematig ac mewn rhai meysydd darpariaeth heb ei gydnabod o gwbl. 

 Ar ddiwedd dau ddiwrnod prysur yn llawn gwybodaeth a thrafodaeth, roedd pob un ohonom yn gyffrous am y posibiliadau a’r gwersi allweddol i mi oedd:

  • Yr angen am strategaeth a pholisi clir ar gyfer RPL yng Nghymru. 
  • Neilltuo arweinyddiaeth glir i yrru camau gweithredu yn ymwneud â RPL ymlaen. 
  • Darparu adnoddau a meithrin gallu i randdeiliaid feithrin eu hyder yn y defnydd o RPL a’r broses ar gyfer ymgysylltu ag ef. 
  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith darparwyr a dysgwyr am RPL a'r manteision. 
  • Archwilio sut y gellir defnyddio RPL mewn rhai sectorau fel blaenoriaeth neu gyda charfannau targed o ddysgwyr.” 

Camau nesaf  
Bydd y ddirprwyaeth yn ailymgynnull i drafod y wybodaeth a gyflwynwyd ac ystyried sut y gellid cyflwyno arferion o'r fath i dirwedd addysg a hyfforddiant Cymru. Mae adroddiad yr ymweliad, gydag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a/neu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, yn cael ei gynhyrchu i’w ystyried. 

Gwybodaeth Bellach 

Kay Smith 
Pennaeth Ymgyrchoedd, Polisi a Datblygu 

Mae Kay yn bennaeth ymgyrchoedd, polisi a datblygu dros Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru. Mae gan Kay arbenigedd mewn gweithio gyda darlledwyr ar ymgyrchoedd gweithredu cymdeithasol a gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ledled Cymru, mae hi’n arwain ar y gwaith i hyrwyddo Wythnos Addysg Oedolion a’r Gwobrau Ysbrydoli! - gwobrau i godi ymwybyddiaeth ac ehangu mynediad i addysg gydol oes. Ochr yn ochr â'r gwaith datblygu a pholisi arall hwn mae Dysgu fel Teulu, ESOL, Sgiliau Hanfodol a Dysgu Cymunedol. 

Cydnabod Dysgu Blaenorol ColegauCymru

Scottish Credit and Qualifications Framework 

Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol, Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd 
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.