ColegauCymru yn ymateb i adroddiad Estyn Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion

Anxious young person.jpg

Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu cyhoeddiad Estyn sy’n edrych ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16 – 18 oed mewn addysg bellach. 

Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o’r radd flaenaf, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy’n cefnogi’r gymuned ehangach, cyflogwyr a’r economi. 

Mae’r adroddiad yn ein hatgoffa o’r angen i adnewyddu ymdrechion i gwrdd â’r heriau hyn, ac mae ColegauCymru yn pryderu bod llawer o ddysgwyr yn dewis peidio â rhoi gwybod am achosion o aflonyddu rhywiol, neu’n ansicr sut i wneud hynny. 

Mae’n galonogol nodi bod rhywfaint o arfer da ar draws y sector. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud i sicrhau bod ein dysgwyr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu parchu.  

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,  

“Rydym yn croesawu cyhoeddiad heddiw ar y mater pwysig hwn. Mae’n gwbl annerbyniol bod dysgwyr yn wynebu unrhyw fath o aflonyddu. Er bod arfer dda yn y sector wedi'i nodi, mae'r adroddiad yn gywir yn amlygu'r angen am welliannau o ran addysgu dysgwyr am ymddygiad priodol a pherthnasoedd iach a'r angen i staff coleg gael y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gefnogi dysgwyr. Mae pob coleg wedi ymrwymo i wneud hyn a byddwn yn gweithio gyda nhw i roi’r argymhellion yn yr adroddiad ar waith.” 

Bydd ColegauCymru yn parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol i wneud y gwelliannau sydd eu hangen i sicrhau bod ein colegau’n fannau cynhwysol a diogel i’n holl ddysgwyr ffynnu. 

Gwybodaeth Bellach 

Adroddiad thematig Estyn 
Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr 16-18 oed mewn colegau addysg bellach ledled Cymru 
7 Mehefin 2023

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk | 07932 545 456

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.