Mynd ymhellach ac yn uwch: Dyfnhau cydweithrediadau rhwng colegau a phrifysgolion

pexels-louis-bauer-249360.jpg

Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu’n gynnes cyhoeddi adroddiad ar y cyd ar gyflymu cydweithio rhwng colegau a phrifysgolion ar draws pedair gwlad y DU. 
  
Mae’r adroddiad gwerthfawr hwn a gyhoeddwyd gan Gomisiwn Annibynnol ar Goleg y Dyfodol a’r Rhwydwaith y Prifysgolion Dinesig yn archwilio pwysigrwydd perthnasoedd rhwng addysg bellach ac uwch ac yn darparu atebion pragmatig i’r heriau a wynebir gan addysg ôl-orfodol ar draws y pedair gwlad. 
 
Mae'r adroddiad yn ceisio adeiladu dull mwy cydweithredol a chydlynol ar draws addysg a sgiliau trydyddol. Mae ein colegau a’n prifysgolion yn sefydliadau angor ac yn rhannu system uno y mae’n rhaid iddi fod yn addas ar gyfer y dyfodol, i gefnogi dysgu ar bob lefel. 
  
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gosod her a disgwyliad clir i bob sefydliad ac unigolyn sy’n gweithio ym maes addysg bellach ac uwch ac mae’n adleisio’r alwad yn ein maniffesto, Llwyddiant Pellach: Argymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru. Rhaid i sefydliadau nawr gamu i’r adwy ac amlinellu sut y byddant yn ymateb i’r cyfleoedd a nodir gan Lywodraeth Cymru ac sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn.” 

Ychwanegodd Prif Weithredwr Coleg Cambria, Yana Williams,

“Bydd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) newydd yn effeithio ar bob darparwr ôl-16, addysg bellach a dysgu gydol oes. Mae Cymru’n elwa o fod yn hynod o gydweithredol. Rhaid inni weithio gyda’n gilydd yn awr i gydnabod ein cryfderau a’n gwendidau gwahanol, ac i annog ymddygiad da – nid cyrraedd targedau’n unig. Bydd y Bil newydd yn ein helpu i sicrhau bod dysgwyr yn gallu cael mynediad at y cyrsiau iawn iddyn nhw ac i lywio eu taith ddysgu i gyrraedd y gyrfaoedd o’u dewis yn llwyddiannus.”

Mae ColegauCymru ar hyn o bryd yn cefnogi ein haelodau drwy hwyluso trafodaeth barhaus rhwng y gwahanol rannau o’r sector ôl-16, gyda Llywodraeth Cymru a’r rheolydd Addysg Uwch, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. 
  
Gwybodaeth Bellach 
  
Coleg y Dyfodol 
Mynd ymhellach ac yn uwch: Sut mae cydweithredu rhwng colegau a phrifysgolion drawsnewid bywydau a lleoedd 
Chwefror 2022 
  
Argymhellion Polisi ColegauCymru ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru 
Llwyddiant Pellach: Argymhellion Polisi ar gyfer Llywodraeth Nesaf Cymru mewn Addysg ôl-16 a Dysgu Gydol Oes i Gymru
Mai 2021 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.