Cynrychiolwyr cyflogwyr yn lleisio pryder ynghylch toriadau posibl i brentisiaethau

Male apprentices.jpg

Mae cynrychiolwyr cyflogwyr wedi dod at ei gilydd i alw am ddiogelu cyllid ar gyfer rhaglen brentisiaethau blaenllaw Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus ar gyfer economi Cymru.

Yn y llythyr agored hwn, mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, CBI Cymru, CIPD, Make UK, NTfW a ColegauCymru yn dweud y bydd toriadau i’r rhaglen brentisiaethau yn tanseilio cenhadaeth economaidd newydd ac yn torri ar y gronfa o dalent sydd ar gael i gyflogwyr.

Llythyr Agored gan Gynrychiolwyr Cyflogwyr

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb ddrafft ar 19 Rhagfyr sy’n debygol o fod yn arwydd o gyfnod heriol iawn i’r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith. Mae ColegauCymru eisoes wedi tynnu sylw at bryderon ynghylch effaith cyllidebau llai posibl ar draws prentisiaethau a’r cynnig addysg bellach ehangach.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Dave Hagendyk,

“Gyda chymaint o gefnogaeth gan gynrychiolwyr cyflogwyr, mae hyn yn anfon neges glir i Lywodraeth Cymru o’r pryder a deimlir ar draws diwydiant.

Nid yw addysg bellach a phrentisiaethau yn ‘neis i’w gael’, ond maent yn sylfaenol i’n hadferiad economaidd ac adeiladu ffyniant Cymru. Mae ein colegau yn darparu cyfleoedd i ddysgwyr gael mynediad at y sgiliau a’r hyfforddiant y mae cyflogwyr yn galw amdanynt i helpu i gyflawni hyn.”

Gwybodaeth Bellach

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.