Hawl dysgwyr a staff i lesiant

Mae ColegauCymru yn galw am nifer o wahanol gamau i helpu i flaenoriaethau iechyd meddwl a chorfforol yn y sector addysg bellach. Bydd ‘dull coleg cyfan’ yn sicrhau bod gan bawb fynediad at gymorth o ansawdd uchel ac y gellir rhannu arfer gorau yn iawn. Rydym am adeiladu cymuned coleg sy'n gydnerth yn emosiynol ac yn gorfforol lle mae pawb yn cael eu hannog i fod yn egnïol yn gorfforol a lle mae cyllid tymor hir yn cefnogi hyn. Rydym hefyd yn gofyn i Lywodraeth Gymru nesaf sicrhau bod cyllid ar gyfer iechyd meddwl yn cwmpasu'r sector addysg gyfan, gan gynnwys dysgu yn y gwaith. Ac yn olaf, rydym am gadw'r rhannau da o ddysgu ar-lein a gweithio lle bynnag y gallwn, er budd gorau dysgwyr a staff.

Dylai Llywodraeth nesaf Cymru:

  • Cefnogi’r sector trwy gydgrynhoi’r gyllideb Lles Iechyd Meddwl bresennol o fewn y dyraniad cyllid Addysg Bellach, i gymhwyso ‘dull coleg cyfan’ cyson at iechyd meddwl a chymhwyso arfer gorau sy’n bodoli eisoes.
     
  • Gwella ansawdd a darpariaeth gweithgareddau corfforol i gefnogi lles actif, i wella gwytnwch emosiynol a chorfforol cymuned y coleg trwy gyllid cyson, tymor hir.
     
  • Sicrhau bod holl bolisi a strategaeth iechyd meddwl yn gydlynol ar draws pob lleoliad addysgol gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith ac yn ystyried y sector Addysg Bellach yn ei chyfanrwydd. Dylai hyn gynnwys ymestyn y gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion i leoliadau Addysg Bellach ar gyfer y grŵp oedran cyfatebol y mae'n berthnasol iddo mewn ysgolion.
     
  • Cefnogi hyblygrwydd parhaus mewn darpariaeth a dysgu - er enghraifft, elfennau o ddysgu gartref a gweithio gartref - i ddysgwyr a staff mewn unrhyw ddatblygiad polisi’r dyfodol.

 

Hawl dysgwyr a staff i lesiant

Rydym yn amlygu’r angen i ddysgwyr a staff mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru dderbyn darpariaeth les ac iechyd meddwl o ansawdd uchel.

Briff

 

PodPolisi

Yn ein trydedd bennod o'r gyfres, mae Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus ColegauCymru Rachel Bowen yn cynnal trafodaeth ynghylch yr hawl i les i ddysgwyr a staff. Yn ymuno i drafod hyn ymhellach mae Is-gadeirydd ColegauCymru, a Phennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont, Simon Pirotte ynghyd â Phennaeth a Phrif Weithredwr Y Coleg Merthyr Tudful, Lisa Thomas.

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.