Colegau addysg bellach ac undebau llafur yn cytuno ar daliad atodol costau-byw ac uwchraddio Cyflog Byw Gwirioneddol

Male hands with pen and paper.png

Datganiad ar y cyd yw hwn a gyhoeddwyd gan ColegauCymru a’r undebau llafur ar y cyd.

Yn dilyn cais gan yr undebau llafur ar y cyd, mae colegau addysg bellach ac undebau llafur yng Nghymru wedi cytuno i dalu tâl atodol costau byw i gefnogi staff mewn addysg bellach, yn ogystal â thalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol uwch.

Yn dibynnu ar drefniadau cyflog presennol aelodau unigol o staff, bydd y canlynol yn berthnasol:

  1. Bydd staff sy’n ddarostyngedig i’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar hyn o bryd yn derbyn taliad wedi’i uwchraddio o £10.90 yr awr (h.y. cynnydd o 10.1%) cyn diwedd Rhagfyr 2022, wedi’i ôl-ddyddio i 1 Awst 2022. Mae hyn yn golygu y bydd pob coleg addysg bellach yn gweithredu’r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol. Bydd staff yn parhau i dderbyn gwerth uwchraddedig y Cyflog Byw Gwirioneddol o Ionawr 2023 ymlaen. Bydd angen ystyried ôl-ddyddio’r Cyflog Byw Gwirioneddol i 1 Awst (h.y. cyn cyhoeddi’r Cyflog Byw Gwirioneddol wedi’i uwchraddio) fel ymateb un-tro i sefyllfa eithriadol o amgylchiadau ac nid ymrwymiad i wneud yr un peth yn y dyfodol.
     
  2. Bydd staff nad ydynt yn ddarostyngedig i'r Cyflog Byw Gwirioneddol yn derbyn 'taliad atodol’ costau byw o 5% cyn diwedd Rhagfyr 2022, wedi'i ôl-ddyddio i 1 Awst 2022. Bydd y 'taliad atodol' costau byw cyfunol o 5% yn parhau o Ionawr 2023. Telir y taliad atodol ar sail dim rhagfarn: ni fydd yn cael unrhyw effaith ar y modd y cynhelir y trafodaethau cyflog a fyddai'n parhau drwy'r broses y cytunwyd arni – ac ar wahân. Fodd bynnag, byddai cost y taliad atodol i gyflogwyr yn cael ei osod yn erbyn lefel y setliad cyflog, unwaith y cytunir arno.

Bydd y taliad yn cael ei wneud i holl staff colegau ym mis Rhagfyr 2022 a bydd yn parhau o fis Ionawr 2023 ac yn amodol ar drafodaethau pellach gyda’r undebau llafur ar y cyd. Mae’r cytundeb wedi’i ddatblygu yn ysbryd partneriaeth gymdeithasol, a byddwn yn parhau i gydweithio’n adeiladol drwy’r cyfnod heriol hwn.

Mae colegau ac undebau llafur yn cydnabod yr anawsterau sy’n gwynebu staff o ran pwysau costau byw, a nod y gweithredu cadarnhaol hwn yw darparu cymorth dros dro. Mae’r taliadau atodol hyn mewn ymateb uniongyrchol i’r argyfwng costau byw ac ar sail dim rhagfarn wrth negodi’n ehangach ar gyflog.

Cydnabyddir efallai y bydd angen trafodaeth ar lefel sefydliad i egluro effaith leol y cytundeb. Bydd colegau ac undebau llafur ar y cyd yn cyfarfod eto ar 12 Ionawr 2023 i barhau â thrafodaethau ar negodi tâl.

Gwybodaeth Bellach
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel Cable@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.