Digwyddiad rhannu gwybodaeth ac arfer gorau i gefnogi cyflwyno cymwysterau adeiladu newydd

Llandrillo - Bricklaying (6).jpg

Ynghyd â Cymwysterau Cymru, mae ColegauCymru yn falch o gynnal digwyddiad wyneb yn wyneb a fydd yn hyrwyddo rhannu gwybodaeth ac arfer da wrth gyflwyno Cymwysterau Peirianneg Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu Lefel 2 newydd. 

Cynhelir y digwyddiad hwn ar 21 Mehefin 2023 a bydd yn dod â cholegau addysg bellach o bob rhan o Gymru ynghyd i rannu profiadau a mewnwelediadau wrth gyflwyno’r asesiadau, yn ogystal ag agweddau eraill y gyfres gymwysterau newydd. 

Bydd y digwyddiad yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliadau dyfarnu City & Guilds ac EAL, a fydd yn darparu'r diweddariadau a'r canllawiau asesu diweddaraf. 

Byddwn hefyd yn croesawu cydweithwyr o’r Coleg Merthyr Tudful, Coleg Penybont, Grŵp Colegau NPTC a Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion, a fydd wrth law i rannu enghreifftiau o’u harferion da eu hunain. 

Meddai Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru Kelly Edwards, 

“Rydym yn falch o gynnal y sesiwn wybodaeth bwysig hon gyda Cymwysterau Cymru, gyda chefnogaeth o’r sefydliadau dyfarnu a fydd yn edrych ar gefnogi ein cydweithwyr Adeiladu o bob rhan o’r sector addysg bellach i gyflwyno’r cymwysterau Sylfaen newydd. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i alluogi’r digwyddiad hwn i gael ei gynnal.” 

Ychwanegodd Uwch Reolwr Cymwysterau Cymwysterau Cymru, Dean Seabrook, 

“Gyda chyfraniadau gan y sefydliadau dyfarnu City & Guilds ac EAL, ynghyd â mewnbwn gan bedwar sefydliad addysg bellach, mae’r digwyddiad hwn yn siwr o fod yn ddiwrnod gwerthfawr ac addysgiadol i’n cydweithwyr adeiladu.” 

Gwybodaeth Bellach 

Cofrestrwch eich lle ar Eventbrite erbyn 8 Mehefin.

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, cysylltwch ag Alex neu Lucy. 

Alex Eslor, Rheolwr Cymwysterau 
Alex.Eslor@Qualifications.Wales

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.