Partneriaeth gymdeithasol ar waith

pexels-fauxels-3184465.jpg

Roedd ColegauCymru yn falch o hwyluso’r cyntaf mewn cyfres o dri digwyddiad partneriaeth gymdeithasol a gynlluniwyd i gefnogi staff mewn colegau addysg bellach.

Mae'r gwaith, mewn cydweithrediad â'r Cyd-Undebau Llafur Cymru, ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, wedi canolbwyntio ar dair thema allweddol sef Systemau a data; Rheoli newid a chyfathrebu; a Rheoli presenoldeb, ymddygiad a lles dysgwyr.

Roedd y digwyddiad cyntaf hwn, a gynhaliwyd yng Ngholeg Cambria ar 5 Rhagfyr, yn gyfle pwysig i ddod â chydweithwyr o bob rhan o’r partneriaid cymdeithasol at ei gilydd i drafod atebion cadarnhaol i gefnogi staff addysg bellach drwy fynd i’r afael â heriau systemau a data, gan nodi lle gall gwelliannau i systemau ac integreiddio helpu i leihau llwyth gwaith staff.

Cydweithio

Ers 2020, mae’r Grŵp llywio llwyth gwaith cenedlaethol wedi cydweithio i fynd i’r afael â heriau llwyth gwaith ac i wella lles staff. Trwy gyfres o brosiectau cydweithredol, mae’r sector addysg bellach, mewn partneriaeth â’u hundebau llafur lleol, wedi datblygu mentrau prosiect i fynd i’r afael â’r materion a amlygwyd gan arolygon Cyngor y Gweithlu Addysg. Bydd y tri digwyddiad wyneb yn wyneb yn caniatáu rhannu arfer gorau a thrafodaeth bellach ar yr hyn y mae angen inni ei wneud nesaf i liniaru'r heriau sy'n wynebu cydweithwyr.

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,

“Mae ColegauCymru yn falch iawn o fod yn hwyluso’r digwyddiadau hyn, gan weithio gyda’n partneriaid cymdeithasol er budd y gweithlu addysg bellach. Mae’r rhain yn gyfleoedd i gydweithwyr rannu arfer orau o bob rhan o golegau i nodi atebion cadarnhaol i symleiddio systemau data a pharhau â’n cynlluniau ar y cyd ar gyfer rhoi atebion ymarferol ar waith i liniaru heriau llwyth gwaith.”

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru, Kelly Edwards,

“Roedd y cyntaf o dri digwyddiad hwn yn gyfle pwysig i gydweithwyr addysg bellach ledled Cymru ddod at ei gilydd i rannu manylion y cynnydd sy’n cael ei wneud fel rhan o gynlluniau gweithredu llwyth gwaith priodol. Nododd y digwyddiad hwn hefyd gamau gweithredu diriaethol a chamau nesaf ar lefel leol a chenedlaethol i symleiddio systemau a lleddfu pwysau llwyth gwaith.”

Bydd dau ddigwyddiad arall, yn edrych ar reoli newid a chyfathrebu; a Rheoli presenoldeb, ymddygiad a lles dysgwyr; yn cael eu cynnal ym mis Chwefror 2024.

Gwybodaeth Bellach

Hwb 
Prosiect Archwilio’n Ddwfn 2022/23 Llywodraeth Cymru 

Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu 
Kelly.Edwards@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.