Wythnos Prentisiaethau 2024: ColegauCymru ac NTfW yn lansio Grŵp Trawsbleidiol newydd ar brentisiaethau y Senedd

Llandrillo - Bricklaying (6).jpg

Cynhelir Wythnos Prentisiaethau rhwng 5 ac 11 Chwefror 2024, gan roi cyfle i ddathlu a hyrwyddo gwerth prentisiaethau fel llwybr i waith neu yrfa newydd, gyda llawer o fanteision cysylltiedig i gymunedau, cyflogwyr ac economi Cymru. 

Wrth i ni ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru, mae ColegauCymru ac NTfW yn falch o lansio Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Brentisiaethau y Senedd. Bydd y grŵp yn cael ei gyd-gadeirio gan Luke Fletcher AS a Huw Irranca-Davies AS, a bydd yn gweithredu i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu prentisiaethau yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. 

Y cefndir i’r Wythnos Brentisiaethau hon yw’r amgylchedd ariannu hynod heriol, yn dilyn cynigion a nodir yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Mae prentisiaethau yn rhan sylfaenol o adferiad economaidd Cymru - ac yn cefnogi dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau Cymru. Mae rhaglen brentisiaethau gref yn hanfodol i Gymru gryfach, wyrddach a thecach. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Bydd y Grŵp Trawsbleidiol newydd hwn yn fforwm hollbwysig i barhau â’r sgwrs bwysig ar brentisiaethau ac i gefnogi meddylfryd Llywodraeth Cymru wrth symud ymlaen. Wrth i Gymru fynd drwy cyfnod economaidd cythryblus, colegau yw’r injan sgiliau sydd eu hangen i ysgogi ein hadferiad economaidd, ac mae’n hollbwysig nad yw mewnfuddsoddiad yn y dyfodol yn cael ei niweidio. Yn ogystal â galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi’r penderfyniad trychinebus i dorri eu rhaglen flaenllaw, rydym am weithio gyda nhw a’r Comisiwn Trydyddol newydd i wella canlyniadau i ddysgwyr a chyflogwyr.” 

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Strategol NTfW, Lisa Mytton, 

“Daw lansiad Grŵp Trawsbleidiol newydd ar Brentisiaethau y Senedd ar adeg hollbwysig i economi Cymru. Bydd NTfW yn achub ar y cyfle hwn i gyfleu pryder mawr darparwyr dysgu seiliedig ar waith a chyflogwyr am doriadau digynsail arfaethedig Llywodraeth Cymru i’r gyllideb prentisiaethau. 

Prentisiaethau pob oed yw conglfaen economi Cymru ac maent yn hanfodol os yw Llywodraeth Cymru am gyflawni ei chenhadaeth ddatganedig i adeiladu gweithlu medrus o safon fyd-eang”. 

Gwybodaeth Bellach

Llywodraeth Cymru | Busnes Cymru 
Wythnos Prentisiaethau 2024 

Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol, Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd 
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.