Cyhoeddiad cyllideb ddrafft yn “ergyd ddinistriol i brentisiaid, cyflogwyr a chymunedau”

pexels-pixabay-128867.jpg

Mae ColegauCymru wedi ymateb i gyhoeddiad cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw, gan rybuddio am ergyd drom i’r sectorau dysgu seiliedig ar waith ac addysg bellach.

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,

Rhaglen Brentisiaeth

“Mae’r toriadau i’r rhaglen brentisiaethau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw yn ergyd drom i brentisiaid, cyflogwyr a chymunedau. Fe allai olygu y bydd 10,000 yn llai o brentisiaid yn gallu dechrau’r flwyddyn nesaf, gyda’r gostyngiadau’n disgyn yn anghymesur ar bobl ifanc, a’r rhai yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol isaf.”

“Wrth i Gymru ymdopi â chyfnodau economaidd cythryblus, colegau yw’r injan sgiliau sydd eu hangen i ysgogi adferiad economaidd. Mae’n hollbwysig nad yw mewnfuddsoddiad yn y dyfodol yn cael ei niweidio, ac mae penderfyniad cyllideb heddiw yn gambl enfawr i economi a chymunedau Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru ailfeddwl a gwrthdroi’r penderfyniad trychinebus heddiw i dorri’r rhaglen brentisiaeth.”

Cyllid ar gyfer addysg bellach

“Croesawir cydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru o bwysigrwydd parhau i gefnogi dysgwyr coleg gydag etifeddiaeth barhaus y pandemig, fodd bynnag bydd gostyngiadau mewn grantiau ochr yn ochr â phwysau ariannol ychwanegol yn golygu y bydd hon yn flwyddyn anodd iawn i’r sector. Rhaid i golegau gael yr adnoddau priodol i’w galluogi i liniaru effaith blynyddoedd ysgol Covid a sicrhau nad yw’r dysgwyr mwyaf agored i niwed dan anfantais ddwywaith. Mae diogelu’r cwricwlwm craidd a sicrhau bod colegau’n gallu cefnogi eu dysgwyr yn hollbwysig.”

“Mae addysg bellach a cholegau yn gwbl ganolog i Gymru decach, wyrddach a chryfach, ond mae angen cyllid cynaliadwy arnynt i allu cefnogi dysgwyr a chyflawni ar gyfer cyflogwyr. Mae’r cyfuniad o’r toriadau i’r gyllideb prentisiaethau a gostyngiadau mewn cyllid mewn mannau eraill yn golygu bod storm berffaith yn wynebu’r sector o ganlyniad i’r cynigion yn y gyllideb ddrafft.”

Gwybodaeth Bellach

Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus 
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.