Diweddariad Chwaraeon ColegauCymru

football2.jpg

Wrth inni symud i mewn i ail hanner tymor y gwanwyn mae digon o weithgareddau chwaraeon i adrodd arnynt gan y sector addysg bellach yng Nghymru. Mae ColegauCymru yn parhau i ddatblygu cyfleoedd i ddysgwyr a gefnogir gan ein colegau, eu staff a’u dysgwyr ac mae hyrwyddo gweithgaredd ar gyfer  merched a dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i bawb.  

Pêl-droed Ability Counts 9 Chwefror 2024 

Llongyfarchiadau i Goleg Caerdydd a’r Fro ar ennill Twrnamaint Pêl-droed Ability Counts yng Nghaerdydd, a enillodd rownd derfynol agos yn erbyn tîm cystadleuol Coleg Meirion Dwyfor ac a fydd yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Chwaraeon AoC ym mis Ebrill. Diolch hefyd i dimau Coleg Gwent (Parth Dysgu Torfaen), Coleg y Cymoedd (Nantgarw) a Choleg Menai gyda sylw arbennig i’r dysgwyr L2 o Goleg Caerdydd a’r Fro a weithiodd ar y digwyddiad fel swyddogion a threfnwyr gemau. 

Pêl-rwyd 

Dechreuodd ein tîm cynrychioli pêl-rwyd eu hymgyrch 2024 ar 17 Chwefror yn erbyn Cymru dan 17 yn House of Sport Caerdydd. Hyfforddir y garfan gan Emma Meredith (Coleg Gwent) a Sarah Lewis (Coleg Gŵyr Abertawe) ac fe’i cefnogir gan staff o golegau eraill. Cynhelir cyfres o gemau rhwng Chwefror a Mai 2024. Bydd y rhain yn cynnwys gemau yn erbyn tîm dan 19 y Dreigiau a thîm cynrychioliadol AoC Sport (Lloegr). Diolch i'n noddwyr Prifysgol Metropolitan Caerdydd am gefnogi'r garfan. 

Sgwad: 

Imogen Harris, Ava Featon, Evelyn Bray, Lila Heminghay, Alice Waygood, Amy Beynon, Megan Gwyther a Hannah Forkuoch (Coleg Gŵyr Abertawe); Caitlyn Reid Gordon, Maddison Perry, Olivia Llewellyn a Ruby Shorney (Coleg y Cymoedd); Megan Cotrell, Maddy Harford, Carys Higgs, Tyla Ambroi a Jocelyn Higgs (Coleg Gwent); Eloise Grover (Coleg Caerdydd a'r Fro); Bronwen Donovan (Grŵp Colegau NPTC); Nia Bullen a Gabby Chaplin (Coleg Sir Gâr). 

 Pêl-droed Merched 

Mae carfan Pêl-droed y Merched wedi dychwelyd o Rufain yn ddiweddar, gan gystadlu yn Nhwrnamaint Rhyngwladol Roma Caput Mundi. Arweinir gan y rheolwr Sean Regan (Coleg Cambria) a’r prif hyfforddwr Claire O’Sullivan (Coleg y Cymoedd). Roedd y tîm yn wynebu amserlen brysur o 3 gêm mewn 4 diwrnod ochr yn ochr â rhai ymweliadau diwylliannol. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran a diolch i'n noddwyr Chwaraeon Prifysgol De Cymru. 

Sgwad Cymru: 

Charlotte Smith ac Efa Preece-Jones (Coleg Gwent); Molly France, Sienna Strapp, Sophie Pemberton a Seren Cashen (Coleg Cambria); Maddie Williams, Ruby Day, Quianna Wheeler, Lauren Payne, Yasmin Wilcox, Ruby Medcraft, a Caitlin Watkins (Coleg y Cymoedd); Brooke Arthur, Erin Haris a Maddison Coles (Coleg Caerdydd a’r Fro); Menna Evans a Phoebe Ellis (Grŵp Llandrillo Menai); Grace Philips (Coleg Penybont); Kelsey Thomas (Coleg Sir Gâr). 

Gwybodaeth Bellach 

Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Chwaraeon a Lles Actif 
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.