Llwyddiant i ddigwyddiad Aml-chwaraeon addysg bellach cyntaf Gogledd Cymru gyda dros 100 o ddysgwyr yn cymryd rhan

20231003_102516.jpg

Roedd ColegauCymru yn falch o gynnal digwyddiad aml-chwaraeon llwyddiannus cyntaf y Rhyl wythnos ddiwethaf. Rhoddodd y diwrnod cynhwysol gyfleoedd i ddysgwyr addysg bellach a staff o golegau ar draws Gogledd Cymru gymryd rhan ar ystod o lefelau.

Cynhaliwyd y digwyddiad, y cyntaf o’i fath yng Ngogledd Cymru, yn Marsh Tracks ar 2 Hydref 2023 a chymerodd dros 100 o ddysgwyr ran o sawl campws Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Cambria.

Gydag ystod eang o ddysgwyr yn cymryd rhan, gan gynnwys dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) a'r rhai sy'n astudio gwasanaethau cyhoeddus a chymwysterau iechyd a gofal cymdeithasol, mae fformat y digwyddiad yn cefnogi dull cwbl gynhwysol lle gall dysgwyr a staff gymryd rhan ar ba bynnag lefel sy'n cyflwyno her addas iddynt. Roeddem yn falch iawn o weld bod gan tua 20% o’r dysgwyr a gymerodd ran anghenion dysgu ychwanegol - sy’n dangos natur gynhwysol y digwyddiad.

Roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr a staff gymryd rhan mewn ymarfer corff gyda'i gilydd, ac mewn rhai achosion rhoi cynnig ar weithgaredd cwbl newydd. Roedd hefyd yn wych gweld staff digwyddiadau yn cael eu cefnogi gan ddysgwyr o gyrsiau gwasanaeth cyhoeddus fel marsialiaid, ac yn cael profiad gwirfoddoli gwerthfawr yn y broses.

Dywedodd Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru,

"Mae llwyddiant y digwyddiad hwn yn seiliedig ar gynnig sy’n addas ar gyfer pob lefel o allu ac yn gwbl gynhwysol yn ei natur. Mae angen o hyd ymgysylltu â'r dysgwyr llai actif hynny ynghylch gwerth gweithgarwch corfforol. Mae’r dystiolaeth yn dweud wrthym fod datblygu arferion cymdeithasol ac emosiynol cadarnhaol ar gyfer y grŵp oedran hwn, gan gynnwys gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, yn cyfrannu at well lles meddyliol. Bydd mwy o ddigwyddiadau o’r natur hwn hefyd yn helpu i greu gwell dealltwriaeth o werth lles actif ar draws y sector."

Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ein noddwyr, staff y digwyddiad, staff y coleg a dysgwyr, a chwaraeodd oll ran fawr wrth wneud y digwyddiad yn llwyddiant, a diolchwn i chi am eich cyfraniadau.

Partneriaid a noddwyr

ColegauCymru, Triathlon Cymru, Beicio Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Y Bartneriaeth Awyr Agored, Coleg Cambria, Grŵp Llandrillo Menai, Actif Gogledd Cymru, Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 

Gwybodaeth Bellach

Rob Bayham, Rheolwr Prosiect Lles Actif a Chwaraeon ColegauCymru
Rob.Baynham@ColegauCymru.ac.uk 

Strategaeth Lles Actif ColegauCymru 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.