Cynllun newydd yn y sector addysg bellach yw’r cynllun Cymraeg Gwaith+ ac rydyn ni eisoes yn yr ail dymor gyda charfan newydd o ddysgwyr yn dechrau ar ddydd Mercher. Mae’r cynllun 10 wythnos wedi teilwra ar gyfer staff mewn colegau addysg bellach sy’n awyddus i ddatblygu mwy o hyder wrth ddefnyddio’r Gymraeg at ddefnydd y gweithle. Prif ffocws y ddarpariaeth yw codi hyder er mwyn defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, yn bennaf gyda dysgwyr.
Yn ystod y cyfnod o 10 wythnos, bydd staff o golegau addysg bellach ar draws Cymru yn mynychu sesiynau ar-lein ar y cyd gyda thiwtor profiadol o Dysgu Cymraeg y Gogledd Orllewin. Mae’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr sy’n astudio ar lefelau Canolradd ac Uwch. Pwrpas y sesiynau hyn ydy newid arferiad ieithyddol a chodi hyder siaradwyr dihyder, fel eu bod yn defnyddio’r Gymraeg pan fyddent fel arfer yn defnyddio’r Saesneg.
Fe wnaethon ni gael sgwrs gyda charfan Cymraeg Gwaith+ tymor yr Hydref ar ddiwedd eu 10 wythnos er mwyn cael eu hymatebion a chael adborth er mwyn gwella’r ddarpariaeth. Nododd y dysgwyr bod y cwrs wedi bod ar y lefel gywir iddyn nhw, ac roedd neilltuo amser penodol ar gyfer ymarfer y Gymraeg wedi bod yn fuddiol. Yn ôl y dysgwyr aeth yr amser yn y dosbarth yn gyflym ac roedd y profiad dysgu yn un cadarnhaol. Roedd canmoliaeth i’r siaradwyr gwadd, gyda’r dysgwyr yn ychwanegu bod gwrando ar wahanol acenion yn ddefnyddiol ynghyd a dysgu am adnoddau defnyddiol ar gyfer y gweithle.
Dywedodd un dysgwr,
“Roedd llawer o gyfle am sgwrs, ac i wrando, popeth oedd angen - bendigedig!”
ac un arall,
“Mae pethau fel hyn wedi bod yn wych i siarad gyda’n gilydd a gweld ein cynnydd”.
Fe wnaeth y grŵp weithio yn arbennig o dda gyda’i gilydd, ac yn awyddus i gadw mewn cysylltiad â threfnu amser i gwrdd wyneb i wyneb.
Diolch hefyd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Sgiliaith a Chanolfan Bedwyr am ddarparu siaradwyr gwadd yn ystod y tymor. Gyda chyllid gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg, mae ColegauCymru yn cydlynu prosiect Cymraeg Gwaith+ addysg bellach ar gyfer y sector colegau addysg bellach.
Gwybodaeth Bellach
Nia Brodrick, Swyddog Prosiectau
Nia.Brodrick@ColegauCymru.ac.uk