ColegauCymru. Llais addysg bellach yng Nghymru.

Faceless students in college grounds.jpg

Elusen addysg sy'n hyrwyddo budd cyhoeddus addysg bellach yng Nghymru yw ColegauCymru. Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.

Rydym hefyd yn ymgynnull Fforwm Penaethiaid Addysg Bellach, sy’n cynrychioli buddiannau darparwyr addysg bellach.

Rydym yn ymgymryd ag ymchwil a datblygu polisi ac yn darparu cefnogaeth ymarferol i'r gymuned addysg bellach. Gan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, eu hasiantaethau, a rhanddeiliaid eraill, rydym yn helpu i lunio polisïau sy'n effeithio ar y sector AB, eu dysgwyr a'u staff.

ColegauCymru yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer addysg bellach yng Nghymru.

Beth rydyn ni'n ei wneud

Fel llais addysg bellach yng Nghymru, rydym ni’n:

  • gwella enw da addysg bellach ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol;

  • cynrychioli buddiannau ein haelodau ac eirioli drostynt;

  • cefnogi ein haelodau i wneud y gorau o’u cyfraniad at ddatblygiad economaidd a chymdeithasol Cymru;

  • darparu cyngor arbenigol ar faterion gwleidyddol a chyfathrebu, a materion undebau llafur a chyflogaeth; a

  • cyflwyno atebion polisi sy'n diwallu uchelgeisiau dysgwyr ac anghenion cyflogwyr

Rydym hefyd yn darparu ystod o wasanaethau cymorth proffesiynol i aelodau sy'n helpu i wella canlyniadau dysgwyr wrth gyfoethogi'r profiad dysgu trwy:

  • cefnogi arloesedd mewn ymarfer galwedigaethol trwy ddysgu proffesiynol a chyfnewid gwybodaeth;

  • hyrwyddo arfer gorau mewn addysgu a dysgu dwyieithog;

  • hwyluso rhaglenni cyfnewid rhyngwladol i ddysgwyr;

  • hyrwyddo lles gweithredol; a

  • cefnogi cyflwyno addysg i ddysgwyr ag anghenion ychwanegol.

Ein Gweledigaeth
Addysg bellach o'r radd flaenaf i Gymru.

Ein Cenhadaeth
Dangos gwerth addysg bellach i'r holl ddysgwyr, y gymdeithas a'r economi.

Ein Gwerthoedd
Rydym yn sefydliad a chyfarwyddir ar werthoedd sy'n seiliedig ar weledigaeth. Mae ein gwaith yn cael ei arwain a'i lywio gan ein gwerthoedd.

Arbenigol

Rydym yn graff, yn ddibynadwy ac yn dryloyw. Rydym yn defnyddio ein gwybodaeth arbenigol i fynegi barn broffesiynol, gytbwys a phroffesiynol i gyflawni ein gweledigaeth.

Aflonyddgar

Rydym yn arweinwyr agweddau. Rydym yn darparu cyfraniadau gwerthfawr a chredadwy i bolisi ac arfer addysg bellach. Rydym yn herio'r sector a'r llywodraeth i wneud gwelliannau uchelgeisiol a chynaliadwy. Nid ydym byth yn fodlon sefyll yn yr unfan.

Cynhwysol

Rydym yn hygyrch, yn foesegol ac yn ddynol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad llawn i gyfleoedd addysg, hyfforddiant a sgiliau o'r radd flaenaf. Rydym yn croesawu amrywiaeth ac yn ei annog o fewn ein sefydliad.

Cydweithredol

Rydym yn ymrwymo i ddiwylliant o bartneriaeth, gwaith tîm a chydweithio i gyflawni ein gweledigaeth.

Gwasanaethau Fforwm

Mae Fforwm Services Ltd yn gwmni cyfyngedig preifat ac yn is gwmni sy'n eiddo llwyr i ColegauCymru. Mae'n blatfform ar gyfer cynnal gweithgareddau masnachol ac i ennill incwm su'n caniatau inni hwyluso digwyddiadau, hyfforddiant a chynadleddau yn benodol i'r sector.

Cwmni Cofrestredig - Rhif: 2832103
Elusen Cofrestredig - Rhif: 1060182

 

 

Mae ColegauCymru yn falch o fod yn achrededig fel cyflogwr Cyflog Byw.

 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.