Heddiw mae ColegauCymru wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg i ddarparu £469,000 o gyllid i sicrhau bod gorchuddion wyneb am ddim ar gael mewn lleoliadau addysg bellach.
Fodd bynnag, ni ddylai hyn dynnu oddi ar ddiffygion ariannol yr ydym yn parhau i'w gweld yn y sector. Mae colegau addysg bellach ledled Cymru yn gweithio'n galed i reoli'r canlyniadau o doriadau cyllid blaenorol yn ychwanegol at y pwysau ariannol ychwanegol sydd bellach wedi dod o ganlyniad i argyfwng Covid19.
Rhaid i'r Llywodraeth mynd i'r afael â gwaharddiad digidol, yn fwy nawr nag erioed o’r blaen. Mae diffygion sylweddol yn parhau o ran darparu offer TGCh, meddalwedd a chysylltedd, a chyda hynny daw'r risg o gynyddu'r rhaniad digidol.
Dywedodd Cadeirydd Fforwm Cyfarwyddwyr Ariannol ColegauCymru, Mark Jones,
“Er ein bod yn croesawu cyhoeddiad heddiw, mae ein haelodau yn parhau i bryderu am y pwysau ariannol sy’n wynebu’r sector wrth inni barhau i ddarparu ar gyfer tirwedd ddysgu newidiol ôl-Covid. Bydd sylfaen ariannol gydnerth yn hanfodol i lwyddiant sefydliadau addysg bellach wrth symud ymlaen ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd ariannol tymor hir i'r sector.”
Ychwanegodd Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru,
“Iechyd a diogelwch dysgwyr a staff yw ein blaenoriaeth o hyd. Croesewir y cyhoeddiad heddiw, gyda’r cyllid ychwanegol wedi’i osod i helpu i wneud campysau coleg yn lleoedd mwy diogel i ddysgu a gweithio ynddynt. Rydyn ni nawr yn edrych at Lywodraeth Cymru i'n cefnogi wrth i ni ymdrechu i sicrhau bod pob dysgwr yn cael yr un cyfleoedd i gyrraedd eu potensial nawr ac yn y dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Datganiad i’r Wasg Llywodraeth Cymru:
£2.3m i ddarparu gorchuddion wyneb ar gyfer dysgwyr ysgolion uwchradd ac addysg bellach
7 Medi 2020