Wythnos Addysg Oedolion: Dathlu gwerth addysg oedolion i ddysgwyr, cymunedau a’r economi

adult learning class.png

Yr wythnos hon rydym yn dathlu Wythnos Addysg Oedolion, y dathliad mwyaf o ddysgu gydol oes yng Nghymru, gyda dros 10,000 o oedolion yn cymryd rhan bob blwyddyn mewn ystod eang o weithgareddau dysgu. Cydlynir yr ymgyrch hon gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol eraill. 

Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod angerdd am ddysgu, wrth eu helpu i ddatblygu sgiliau gwerthfawr ar gyfer gwaith a bywyd. Drwy gydol Wythnos Addysg Oedolion, bydd cannoedd o gyrsiau hygyrch a rhad ac am ddim, digwyddiadau, sesiynau blasu, diwrnodau agored, ac adnoddau dysgu ar gael i bawb. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Rydym yn falch iawn unwaith eto i gefnogi Wythnos Addysg Oedolion sy’n rhoi cyfle i ni arddangos gwerth addysg oedolion – nid yn unig i’n dysgwyr a’n cymunedau ond i ffyniant economaidd Cymru.” 

Mae ein colegau addysg bellach yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o wneud Cymru yn genedl ail gyfle. Cenedl lle nad yw byth yn rhy hwyr i ddysgu. Lle mae gan bobl yr hyder, y cymhelliant a'r modd i fynd yn ôl i fyd addysg i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio a ffynnu ar unrhyw adeg. 

Mae gweithlu medrus yn hanfodol i sicrhau economi Gymreig ffyniannus. Mae addysg oedolion ac uwchsgilio yn rhan allweddol o’r gwaith o ailadeiladu ein heconomi mewn cyfnod sy’n parhau i fod yn heriol.Mae manteision dysgu gydol oes yn amrywiol ac yn niferus – o ddarparu ymdeimlad o les, pwrpas a chyflawniad i fynd i’r afael â materion cymdeithasol fel unigrwydd ac arwahanrwydd. Mae'r manteision hyn yn eu tro yn rhoi'r arfau i gymunedau ffynnu. Mae sgiliau yn helpu pobl i gael gwaith ac i wella yn y gwaith sy'n ein galluogi ni i gyd i gadw i fyny â byd sy'n newid a'n gweithleoedd sy'n trawsnewid yn gyflym.  

Gwybodaeth Bellach 

Wythnos Addysg Oedolion: Paid Stopio Dysgu 

Llywodraeth Cymru - Wythnos Addysg Oedolion - #NewidDyStori 

Cysylltwch â'ch coleg lleol i ddarganfod yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael 
Colegau Addysg Bellach Cymru 

Darllenwch fwy am werth dysgu oedolion yn ein hadroddiad gwerth cymdeithasol 
Dangos Gwerth Cymdeithasol Colegau Addysg Bellach yng Nghymru 
Ebrill 2024 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.