Mae ColegauCymru heddiw wedi croesawu uchelgais Gweinidog yr Economi ar gyfer economi Gymreig gryfach, ‘lle mae rhan gan bob un ohonom i chwarae’, ond mae’n rhybuddio bod angen buddsoddiad parhaus mewn meysydd addysg allweddol i gyflawni hyn er budd hirdymor Cymru.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Mae colegau’n cefnogi cenhadaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru ond mae angen i ni weld manylion sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni. Yn benodol, mae angen i’r weledigaeth gael ei hategu gan ymrwymiad i fuddsoddiad parhaus mewn prentisiaethau ac mewn addysg a hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel.
Gyda chyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ychydig wythnosau o gael ei chyhoeddi, mae’n hollbwysig eu bod yn canolbwyntio ar wneud dewisiadau er budd hirdymor gweithwyr a chyflogwyr. Rhaid i hyn olygu diogelu cyllid ar gyfer prentisiaethau ac addysg bellach fel bod pobl ifanc ac oedolion yn cael y cyfle sydd ei angen arnynt i gael mynediad at swyddi o ansawdd uchel sy’n talu’n dda a bod cyflogwyr yn gallu cael mynediad at y sgiliau sydd eu hangen arnynt i dyfu a bod yn llwyddiannus. Byddai torri cyllid ar gyfer prentisiaethau ac addysg bellach pan fo ein hadferiad economaidd mor fregus yn benderfyniad anghywir ar yr amser anghywir.”
Gwybodaeth Bellach
Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Gweinidog yr Economi yn nodi'r prif flaenoriaethau ar gyfer economi gryfach yng Nghymru ‘lle mae rhan gan bob un ohonom i chwarae
28 Tachwedd 2023