Llythyr agored o golegau Cymru at y Prif Weinidog nesaf

pexels-cottonbro-6344238.jpg

Ddydd Iau yma fe fydd pleidleiswyr ar draws y DU yn pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol. Yma, mae Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey, wedi ysgrifennu llythyr agored at Brif Weinidog nesaf y DU, yn galw arnynt i gydnabod gwir werth ein colegau ac nid yn unig i’n dysgwyr, ond wrth helpu ein cymunedau i ffynnu ac wrth gefnogi ffyniant economaidd yma yng Nghymru.

 I'r Prif Weinidog nesaf, 

1 Gorffennaf 2024 

Llythyr agored at Brif Weinidog nesaf y DU 

Fel arweinwyr colegau, credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o’r radd flaenaf a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol. Mae sector addysg bellach cryf yn hanfodol i’n datblygiad economaidd a’n gwydnwch cymunedol. Er bod polisi addysg a phrentisiaethau wedi’i ddatganoli i Gymru, mae’r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU yn parhau i gael effaith sylweddol ar y dirwedd y mae colegau’n gweithredu ynddi. 

Roedd ymchwil newydd a gyhoeddwyd yng ngwanwyn 2024 yn cadarnhau bod colegau addysg bellach yn rhan annatod o hybu llesiant cymdeithasol, pontio’r bwlch mewn symudedd cymdeithasol, a hybu ffyniant. Mae ein hadroddiad Dangos Gwerth Cymdeithasol colegau addysg bellach yng Nghymru yn dangos sut mae colegau’n gweithredu fel sefydliadau angori, gan lunio eu heconomïau lleol a rhanbarthol. Mae eu ffocws ar ddatblygu sgiliau, partneriaethau gyda busnesau, a rhaglenni prentisiaeth yn dangos eu hymrwymiad i feithrin gweithlu medrus ar gyfer y dyfodol. Dim ond trwy weithio mewn partneriaeth â’r llywodraeth a rhanddeiliaid eraill – yn lleol ac yn genedlaethol y gall colegau gyflawni eu cenhadaeth. 

Mae cronfeydd ar gyfer cyllid i ddisodli cyllid UE yn chwarae rhan hollbwysig yng Nghymru. Er ein bod yn cydnabod cymhlethdodau gweinyddu cynllun ariannu ar gyfer y DU gyfan, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan ganolog. Byddai rhoi rheolaeth ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin gyda Llywodraeth Cymru yn galluogi mwy o werth am arian a lleihau dyblygu – byddai’n golygu’r potensial i brosiectau cenedlaethol gefnogi dysgwyr, yn ogystal â hyfforddiant cyflogwyr. Gan weithio gyda'n gilydd dylem geisio lleihau biwrocratiaeth gymaint â phosibl er mwyn sicrhau'r gwerth mwyaf i bwrs y wlad. Byddai mwy o reolaeth dros gyllid yn y dyfodol yn galluogi Llywodraeth Cymru i roi hwb i’w chefnogaeth i’r rhaglen prentisiaethau, dysgwyr amser llawn a rhan-amser, y rhai nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET), a datblygiadau arloesol diweddar fel Academïau Sgiliau a Bŵtcamps. Mae angen llawer mwy o hyblygrwydd arnom o fewn prosiectau SPF yn y dyfodol, ac yn hollbwysig bod y sector addysg bellach yn cael ei gynrychioli’n dda mewn trafodaethau sy’n dod i’r amlwg ar drefniadau’r dyfodol. 

Mae colegau’n chwarae rhan hollbwysig ar y llwyfan rhyngwladol – gan weithio gyda phartneriaid gartref a thramor. Mae rhaglen symudedd rhyngwladol Llywodraeth y DU – Cynllun Turing – yn rhan werthfawr iawn o’r darlun. Mae ColegauCymru, trwy ei brosiectau a arweinir gan gonsortiwm Cymru gyfan, wedi elwa o gyllid Cynllun Turing gyda dros 450 o ddysgwyr addysg bellach o Gymru yn cymryd rhan mewn ymweliadau tramor â 13 o wledydd ledled y byd ers ei lansio yn 2021. Mae cyllid Cynllun Turing wedi rhoi cyfeloedd i ddysgwyr addysg bellach yng Nghymru i weithio, astudio neu wirfoddoli dramor, gan wella eu sgiliau cyflogadwyedd ac ehangu eu gorwelion. Yn ogystal ag ariannu lleoliadau dysgwyr dramor, byddai ymrwymiad i ariannu staff addysg bellach i ddysgu o arfer gorau yn fyd-eang yn cael ei groesawu. 

Dymunwn y gorau i chi yn eich dyddiau cynnar yn y swydd a gobeithio y byddwch yn ymuno â mi i gydnabod gwir werth ein colegau – nid yn unig i’n dysgwyr, ond i helpu ein cymunedau i ffynnu ac i gefnogi ffyniant economaidd yma yng Nghymru. 

Yr eiddoch yn gywir, 

Guy Lacey
Cadeirydd ColegauCymru

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.