Ymateb Ymghyhoriad
Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd
Dyddiad Cau ar gyfer cyflwyno: 7 Chwefror 2025
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd wedi bod yn cymryd tystiolaeth ar lwybrau prentisiaeth Cymru.
Tynnodd ColegauCymru sylw at y gwaith cymhleth o fapio llwybrau prentisiaeth oherwydd y defnydd o derminoleg anghyson a’r llwybrau sydd ar gael. Yn wahanol i lwybrau academaidd ‘llinol’, gall llwybrau galwedigaethol, gan gynnwys prentisiaethau, fod yn brin o lwybrau dilyniant clir. Er enghraifft, gall dysgwr adeiladu ddechrau gyda Phrentisiaeth Iau ond rhaid yna fynychu'r coleg yn llawn amser am flwyddyn i symud ymlaen, gan nad oes Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu yn bodoli.
Mae ColegauCymru yn parhau i alw am strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol (VET) i alinio nodau diwydiannol ac addysg Cymru. Mae’n hollbwysig bod y Rhaglen Brentisiaethau yn diwallu anghenion busnes, ond bydd hynny’n anoddach o fewn cyfyngiadau’r gyllideb prentisiaethau sy’n lleihau.
Mae gennym gyfle yma i wella cyngor ac arweiniad annibynnol ar adegau pontio allweddol. Ar hyn o bryd dim ond 2% o ymadawyr ysgol Blwyddyn 11 sy'n dilyn prentisiaeth.
Roedd y dystiolaeth ysgrifenedig hefyd yn tynnu sylw at ddulliau arloesol, fel y rhaglen Prentisiaethau Iau, y mae Estyn wedi’i chydnabod am ei chyfraddau llwyddiant uchel. Yn ogystal, pwysleisiodd ColegauCymru yr heriau parhaus o ran costau byw, gan gynnwys costau trafnidiaeth a chyflogau isel, a all effeithio’n sylweddol ar allu unigolyn i ddechrau - ac, yn hollbwysig, i gwblhau - prentisiaeth.
Gwybodaeth Bellach
Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol - Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk