Yr wythnos hon mae ColegauCymru yn ymuno â’n colegau addysg bellach i ddathlu gwerth prentisiaethau i ddysgwyr, ein cymunedau a’n cyflogwyr, wrth i ni ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024.
Mae’r dathliad blynyddol hwn a gynhelir rhwng 5 – 9 Chwefror yn amlygu ffordd wych o ennill cymwysterau wrth ennill cyflog a gweithio. Mae ColegauCymru yn cydlynu’r rhwydwaith o 11 o golegau sy’n gweithio mewn partneriaeth agos i gyflwyno rhaglenni prentisiaeth o ansawdd uchel mewn ystod eang o feysydd galwedigaethol – o brentisiaethau iau i brentisiaethau lefel sylfaen a lefel uwch. Gyda chysylltiadau cryf â diwydiant a systemau cymorth hynod sefydledig ar gyfer dysgwyr, gan gynnwys Canolfannau Cyflogaeth a Menter ymroddedig, mae'r sector addysg bellach mewn sefyllfa dda i helpu i gyflwyno'r medrau sydd eu hangen ar ddysgwyr i gychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i gynhyrchu a chadw pobl fedrus i helpu i ateb y galw presennol ac yn y dyfodol am fusnesau ac economi Cymru.
Prentisiaethau ar waith
Gwyliwch sut mae Siop Swyddi wedi cysylltu cyflogwyr a phrentisiaid yng Ngholeg Cambria:
Dywedodd Cynghorydd Strategol ColegauCymru ar gyfer Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd, Jeff Protheroe,
“Mae’r sector addysg bellach wedi hen gydnabod prentisiaethau fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd, a’r buddion y maent yn eu cynnig i unigolion, cyflogwyr a’r economi.
Rydym yn falch iawn o ddathlu’r wythnos hon a rhannu’r straeon gwych am brentisiaethau llwyddiannus sydd wedi arwain at gyfleoedd cyflogaeth ystyrlon neu astudiaeth bellach.”
Gwybodaeth Bellach
Llywodraeth Cymru | Busnes Cymru
Wythnos Prentisiaethau 2024
Jeff Protheroe Cynghorydd Strategol, Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk