Wrth i ni barhau i ddathlu gwerth Prentisiaethau gydag Wythnos Prentisiaeth Cymru, mae Matthew Hayward yn rhannu manylion o’r ffordd y gwnaeth rhaglenni prentisiaeth a chymorth coleg drawsnewid ei brofiad o ddysgu ac arwain at lwyddiant.
Enw'r Dysgwr |
Matthew Hayward |
Prentisiaeth |
Diploma mewn Gwaith Chwarae, Prentisiaethau uwch mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant a Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Coleg |
Coleg Sir Benfro |
“Ar hyn o bryd rwy'n astudio tuag at Lefel 4 mewn Cyngor ac Arweiniad. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i anelu'n bennaf at unigolion sy'n rhoi cyngor a chymorth arweiniad i eraill, ac mae'n cydnabod bod cyflogaeth yn y sectorau yma yn cynnwys ystod amrywiol o swyddogaethau, tasgau a gweithgareddau. Fodd bynnag, rwyf wedi wynebu rhai heriau wrth gyrraedd y pwynt hwn!
Yn 2014, wrth weithio i Gyngor Abertawe, cwblheais fy niploma prentisiaeth gyntaf mewn Gwaith Chwarae, cymhwyster a ddyluniwyd ar gyfer y rhai sy'n edrych am yrfa mewn ystod o leoliadau gwaith chwarae fel cylchoedd chwarae, ysgolion a chanolfannau hamdden. Yn anffodus, oherwydd bod gennyf anawsterau dysgu gan gynnwys dyslecsia a dyspracsia, nid oeddwn yn gallu cwblhau fy Ngradd Anrhydedd. Bryd hynny, roeddwn yn teimlo fy mod yn fethiant ac nad oedd unrhyw ffordd y byddwn i byth yn gwneud cwrs arall mewn lleoliad addysgol eto!
Er gwaethaf y teimladau hyn, mae’r gefnogaeth a gefais gan Goleg Sir Benfro wedi sicrhau fy llwyddiant. Yn ddiweddarach es i ymlaen i gwblhau prentisiaethau uwch mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant a Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae fy nhiwtor, Marjorie Fletcher, wedi fy nghefnogi trwy gydol fy mhrentisiaethau. Mae Marjorie wedi fy annog i ddatblygu fy sgiliau ac i barhau ag asesiadau pan oeddwn yn teimlo na allwn gyrraedd y nodau a osodwyd. Mae hi'n ffantastig!
Ar ôl ennill y cymwysterau hyn, rwyf bellach yn berson newydd! Rwy’n deall fy nghryfderau a gwendidau fel dysgwr ac mae fy hyder wedi codi’n aruthrol! Mae fy ngyrfa wedi datblygu'n aruthrol hefyd, a gallaf nawr ddefnyddio'r sgiliau a'r wybodaeth rwyf wedi'u dysgu i helpu defnyddwyr gwasanaethau. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio fel Swyddog Cymorth i Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Abertawe ac yn gweithio tuag at gwblhau Lefel 4 Cyngor ac Arweiniad.
Wrth i mi fyfyrio, rwyf mor ddiolchgar i staff Coleg Sir Benfro am gredu ynof a rhoi’r cyfle i mi ddatblygu nid yn unig yn fy ngyrfa broffesiynol ond hefyd fel unigolyn.”