Mae ColegauCymru wedi croesawu adroddiad diweddar Archwilio Cymru Darlun o Addysg Uwch ac Addysg Bellach sy'n edrych yn benodol ar y materion sy'n wynebu'r sectorau a'r heriau sy'n wynebu dysgwyr. Mae'r adroddiad annibynnol yn edrych ar effaith Covid19 ar ddysgu ôl-orfodol ac yn tynnu sylw at feysydd pryder allweddol a sut mae dysgwyr a myfyrwyr yn ogystal â sefydliadau wedi addasu i effaith y pandemig.
Gan adlewyrchu ar y dadansoddiad, mae ColegauCymru yn cytuno â llawer o'r asesiadau Archwilio Cymru o'r cyfleoedd a'r heriau o ran diwygio addysg ôl-16: yr angen i gynnal y cydweithredu cryfach â Llywodraeth Cymru, hyblygrwydd a datblygiad parhaus technegau dysgu digidol.
Yn yr un modd, mae'n cydnabod bod y pryderon y mae'r corff yn eu codi ynghylch yr angen i gael Comisiwn arfaethedig Addysg ac Ymchwil Trydyddol (CTER) Llywodraeth Cymru yn iawn, gan gynnwys ei arweinyddiaeth a'r angen i ysbrydoli ymddiriedaeth ymhlith yr holl bartneriaid perthnasol, yn amserol ac yn berthnasol iawn wrth i ni barhau i deimlo effaith y clo fawr ac aflonyddu dysgu.
Y peth mwyaf pryderus yw canfyddiad yr adroddiad “Ymddengys bod effaith [y pandemig] wedi bod yn fwyaf negyddol i’r rheini yn y sector galwedigaethol, yn enwedig ar lefelau cymwysterau is, ac i ddysgwyr sydd eisoes yn agored i niwed oherwydd amddifadedd, amgylchiadau gartref neu ddysgu anableddau”.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Mae adroddiad Archwilio Cymru yn adlewyrchu’r amgylchiadau heriol sy’n wynebu addysg bellach ac uwch, nid yn unig mewn perthynas â Covid19, ond y Mesur CTER arfaethedig, effaith y Cwricwlwm i Gymru, a diwygio cymwysterau. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi effaith negyddol y pandemig ar ddysgwyr rhan-amser, yn enwedig y rheini mewn Dysgu Cymunedol i Oedolion."
Ychwanegodd Mr Davies,
“Bydd colegau’n parhau i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi staff a dysgwyr wrth inni ddod allan o’r amser heriol hwn. Mae'n annerbyniol bod dysgwyr agored i niwed mewn perygl o gael eu taro caletaf gan effeithiau Covid19 a rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i weithio gyda'r sector addysg bellach, yn y tymor byr a'r tymor hir, i sicrhau nad yw anfantais yn cael ei gwreiddio ymhellach."
Mae'r Elusen yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod yr adroddiad wrth iddi nodi ei rhaglen Adnewyddu a Diwygio i gefnogi sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach i fynd i'r afael â'r heriau parhaus sy'n wynebu myfyrwyr. Mae hefyd wedi ysgrifennu at Gadeirydd Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gofyn i’r adroddiad gael ei ystyried fel mater o frys a chyn iddo graffu ar y bil arfaethedig i sefydlu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Gwybodaeth Bellach
Archwilio Cymru
Darlun o Addysg Uwch ac Addysg Bellach
21 Hydref 2021