Mae ColegauCymru yn falch iawn o fod wedi gweithio gyda Phrifysgol De Cymru i gydlynu cyflwyno rhaglen astudio Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer ymarferwyr addysg bellach.
Astudiodd y garfan o ddysgwyr y PG Cert SEN/ALN (Awtistiaeth) sef 60 credyd o'r MA llawn ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'r cymhwyster yn unigryw yng Nghymru ac yn cael ei ddarparu gan yr ymarferydd ac ymchwilydd Awtistiaeth flaenllaw, Dr Carmel Conn. Dyma'r unig gymhwyster Awtistiaeth yn y rhanbarth sy'n seiliedig ar ymarfer.
Dywedodd Arweinydd Trawsnewid ADY ColegauCymru ar gyfer Addysg Bellach, Chris Denham,
“Mae ASD, neu Awtistiaeth, yn un o’r amodau ADY mwyaf cyffredin. Mae ColegauCymru wedi bod yn awyddus i gefnogi a chydlynu'r dull hwn oherwydd ein bod yn cydnabod pwysigrwydd cael staff mewn colegau sydd wir yn deall anghenion pobl ifanc sy'n byw gydag Awtistiaeth.
“Mae cyflawniadau'r rhai sy'n cwblhau'r rhaglen yn cynrychioli chwistrelliad digynsail o arbenigedd ASD i'n colegau sy'n debygol o drosi i welliant ym mhrofiad y dysgwr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf wrth i golegau ymgymryd â'u dyletswyddau newydd o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)(ALNET).”
Wrth i ymarferwyr ADY ledled Cymru baratoi ar gyfer gweithredu Deddf ALNET o fis Medi 2022, mae ColegauCymru yn gweithio'n agos gyda cholegau i gydlynu hyfforddiant a gwaith paratoi arall, wrth iddynt ymrwymo i barhau i wella gwasanaethau cyn y dyddiad hwn. Mae llwyddiant y bartneriaeth hon diolch yn rhannol i bandemig Covid19 - oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo, roedd y symud i ddarpariaeth ar-lein yn annog pobl i ymrestru yn y rhaglen.
Ychwanegodd Uwch Ddarlithydd mewn Dysgu Proffesiynol ac Arweinydd y Cwrs MA SEN/ALN (Awtistiaeth) ym Mhrifysgol De Cymru, Dr Carmel Conn,
“Roedd yn bleser pur dysgu’r grŵp hwn o fyfyrwyr, sydd i gyd yn weithwyr proffesiynol profiadol sy’n gweithio yn y sector addysg bellach. Fe wnaethant ddangos lefel uchel o ymrwymiad i'w hastudiaethau a'r gallu i ymgymryd â safbwyntiau newydd ar awtistiaeth a chymorth addysgol, gan gynnwys safbwynt pobl awtistig eu hunain.
Roedd cyflawniad myfyrwyr ar y cwrs yn rhagorol a dewisodd llawer gynnal prosiectau ymholi a ymgynghorodd â phobl ifanc am eu blaenoriaethau a'u profiadau yn y coleg. Mae'r potensial i gael effaith o gyflawni'r rhaglen hon yn sylweddol a'r gobaith yw y bydd yn gwneud cyfraniad at well arferion cymorth a ddefnyddir gyda dysgwyr awtistig yn y sector addysg bellach yng Nghymru."
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies ymhellach,
“Mae hon wedi bod yn bartneriaeth hynod lwyddiannus rhwng colegau addysg bellach a Phrifysgol De Cymru, gyda 50 o ymarferwyr ADY ar draws ein holl golegau yn cael eu cynrychioli, ac ymrwymiad gan golegau nad ydym wedi'u gweld o'r blaen, yn sicr ym maes anghenion dysgu ychwanegol.”
“Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am yr arian ychwanegol a ddarparwyd a oedd yn ei gwneud yn bosibl i'r unigolion hyn ac yn fuan, 30 arall, achub ar y cyfle amhrisiadwy hwn.”
Mae ColegauCymru yn cydnabod pwysigrwydd hyrwyddo gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru ac rydym yn cefnogi’r cynlluniau i wella darpariaeth, fel y manylir yn natganiad y Gweinidog dros Addysg ar 14 Gorffennaf 2021 wrth iddo sôn am weithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg 2018.
Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud gan ColegauCymru a'n haelodau yn rhan o'r gwaith prosiect ADY ehangach sy'n digwydd wrth inni symud at wella'r ddarpariaeth addysg ôl-16 i ddysgwyr a'u teuluoedd.
Gwybodaeth Bellach
Astudiaeth Achos
Julia Green yw Cydlynydd ADY Coleg Sir Gar. Darllenwch am ei phrofiad o'r cymhwyster hwn.
Prifysgol De Cymru - MA SEN/ALN (Awtistiaeth)
Datganiad Cabinet
Datganiad Ysgrifenedig: Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018
14 Gorffennaf 2021