Rydym yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i sicrhau bod cynllunio sgiliau cwmnïau a chymorth busnes yn cael eu cysylltu â'u cydgysylltu’n fwy cyson mewn amgylcheddau ffisegol a rhithiol, i wella elfen sgiliau gwasanaeth Busnes Cymru trwy adeiladu cysylltiadau agosach ag addysg bellach, sefydlu Canolfan Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol i wella proffesiynoldeb deuol, cryfhau cydweithredu rhwng busnes a sefydliadau addysg bellach a chefnogi cymhwysiad ymarferol arloesedd ac ailasesu effaith Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, y Bwrdd Cynghori Prentisiaethau a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru.
Dylai Llywodraeth nesaf Cymru:
- Sicrhau bod cynllunio sgiliau a chymorth busnes cwmnïau yn cael eu cysylltu a'u cydgysylltu'n fwy cyson mewn amgylcheddau ffisegol a rhithiol, gyda sefydliadau addysg bellach yn gweithredu fel lleoliadau neu hybiau ar gyfer cymorth busnes a gwasanaethau fel Busnes Cymru.
- Gwella elfen sgiliau gwasanaeth Busnes Cymru trwy adeiladu cysylltiadau agosach ag Addysg Bellach sy'n cynnig hyfforddiant achrededig hyblyg i berchnogion busnesau bach a chanolig a'u staff.
- Sefydlu Canolfan Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol i wella proffesiynoldeb deuol, cryfhau cydweithredu rhwng busnes a sefydliadau addysg bellach a chefnogi cymhwysiad ymarferol arloesi. Byddai’r Ganolfan hefyd yn darparu mynediad at dechnoleg newydd, yn enwedig gan fusnesau bach a chanolig, a chryfhau cadwyni cyflenwi rhwng busnesau bach a chanolig a chwmnïau angori.
- Ailasesu effaith Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, y Bwrdd Cynghori Prentisiaethau a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru a chwestiynu a ellid symleiddio'r swyddogaethau hyn neu eu cyflawni'n fwy effeithiol, o bosibl o fewn neu gan sefydliadau eraill. Yn ddarostyngedig i'r asesiad hwn, yn y dyfodol, rhaid i gyrff o'r fath gael chylch gwaith clir a gweithdrefnau llywodraethu tryloyw ac effeithiol i alluogi cyngor cynllunio annibynnol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer ysgolion, colegau a phrifysgolion yn ogystal â datblygu prentisiaethau.
Gwell ymgysylltiad sgiliau a busnes
Rydym yn amlygu’r angen i ddatblygu gwell sgiliau busnes ac ymgysylltiad â busnes.
PodPolisi
Yn y bennod hon mae Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies yn cynnal trafodaeth ynghylch ein pedwaredd thema, Gwell sgiliau ac ymgysylltiad busnes. Yn ymuno ag ef y mae Pennaeth Coleg Sir Benfro, Barry Walters, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, Dafydd Evans a Phrif Weithredwr Coleg y Cymoedd, Karen Phillips.