Ymhellach i gyhoeddiad neithiwr am gynnydd sydyn yn nifer yr achosion Covid19 a'r cloi lleol cysylltiedig i Fwrdeistref Sirol Caerffili, mae Grŵp Rhanbarthol y De Ddwyrain o Benaethiaid Colegau heddiw wedi rhoi eglurhad a sicrwydd o ran parhau i ddarparu addysg bellach yn yr ardal.
Dywedodd Dirprwy Gadeirydd ColegauCymru a Chadeirydd Grŵp Rhanbarthol Penaethiaid Colegau De Ddwyrain Cymru Guy Lacey:
“Yn dilyn ymgynghori â Llywodraeth Cymru a phenaethiaid colegau rhanbarthol yn gynharach heddiw, rydym yn awyddus i sicrhau i ddysgwyr, rhieni a staff bod campysau colegau ar draws rhanbarth De-ddwyrain Cymru yn parhau i fod yn agored ac yn weithredol heb unrhyw newidiadau arfaethedig i ddarparu cyrsiau.”
Bydd y cyfnod clo yn cychwyn yn ffurfiol o 6.00pm ar ddydd Mawrth 8 Medi. Mae'n hanfodol bod dysgu wyneb yn wyneb yn parhau cymaint â phosibl, yn enwedig yng nghyd-destun y golled o oriau dysgu y mae myfyrwyr eisoes wedi'u hwynebu dros y 6 mis diwethaf, ac ar ddechrau'r hyn sy'n debygol o fod yn flwyddyn academaidd brysur a heriol.
Caniateir i ddysgwyr a staff colegau addysg bellach sy'n byw y tu allan i Fwrdeistref Sir Caerffili ond sy'n gweithio neu'n dysgu ar gampws coleg yn y Fwrdeistref barhau i fynychu. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi sicrwydd bod teithio i gampysau colegau addysg bellach yn cael ei ystyried yn teithio hanfodol yn ystod yr amser anodd hwn.
Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru wrth i ni fonitro'r sefyllfa hon sy'n newid yn gyflym. Ein blaenoriaeth, fel bob amser, yw iechyd, diogelwch a lles ein dysgwyr a'n staff.
Gwybodaeth Bellach
Anogir dysgwyr, rhieni a staff sy'n cael eu heffeithio gan gyfnod clo Caerffili i ddilyn gwefannau colegau a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau diweddaraf ac arweiniad pellach.
Coleg Caerdydd a’r Fro | @CAVC
Coleg Gwent | @ColegGwent
Coleg y Cymoedd | @ColegyCymoedd
Y Coleg Merthyr Tudful | @CollegeMerthyr
Canllawiau Llywodraeth Cymru:
Cyfnod clo coronafeirws sir Caerffili
8 Medi 2020
Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru:
Cyfyngiadau lleol i reoli’r Coronafeirws yn Sir Caerffili
7 Medi 2020