Fel rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru 2025, roedd ColegauCymru, mewn partneriaeth â Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), yn falch iawn o gynnal Ffair Brentisiaethau yn y Senedd.
Cynhaliwyd y digwyddiad ddydd Mercher, 12 Chwefror 2025, yn Neuadd drawiadol y Senedd ym Mae Caerdydd, a gynhaliwyd gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Brentisiaethau, a’i gyd-gadeirio gan Luke Fletcher AS a Joyce Watson AS.
Gan ddod ag arddangoswyr o’n haelod-golegau a darparwyr hyfforddiant ar draws amrywiol sectorau ynghyd, roedd y digwyddiad yn cynnig golwg agosach i’r rhai a oedd yn bresennol ar raglenni prentisiaeth a llwyddiannau cysylltiedig.
Roedd y stondinau arddangos yn brofiad ymarferol, yn cynnwys gweithgareddau fel weldio rhithwir, arddangosiadau model o awyrennau, a thrwsio ac ailorffennu cyrff cerbydau. Bu ymwelwyr hefyd yn archwilio nifer o arddangosfeydd rhyngweithiol eraill yn arddangos rhaglenni prentisiaeth o bob rhan o Gymru. Roedd yr arddangosion hyn yn gyfle unigryw i ymgysylltu â thechnolegau arloesol a chael cipolwg ar y sgiliau ymarferol y mae prentisiaid yn eu datblygu trwy gydol eu hyfforddiant.
Roedd y digwyddiad hefyd yn arddangos yr ystod amrywiol o gyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael yng Nghymru a phwysleisiodd i Aelodau’r Senedd yr angen hanfodol am fuddsoddiad parhaus mewn prentisiaethau fel llwybr at dwf economaidd a chydnerthedd cymunedol.
Roeddem hefyd yn falch o groesawu Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, a ddywedodd fod prentisiaethau yn gymaint mwy na llwybr at gyflogaeth – maent yn gonglfaen economi gryf a llwyddiannus.
Mae datganiad polisi Llywodraeth Cymru ar brentisiaethau yn eu gosod fel conglfaen i’w strategaeth sgiliau, gan roi cyfle i unigolion “ennill a dysgu” tra’n rhoi iddynt y wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau sy’n hanfodol ar gyfer llwyddiant yn y gweithle.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Mae prentisiaethau’n hanfodol i adeiladu gweithlu medrus a chefnogi economi Cymru. Maent yn darparu cyfleoedd sy’n newid bywydau i unigolion ennill, dysgu, a ffynnu, tra’n helpu busnesau i dyfu a llwyddo.
Roedd y Ffair Brentisiaethau yn y Senedd yn llwyfan gwych i arddangos yr ehangder o dalent ac arloesedd y mae prentisiaethau’n eu cynnig i Gymru. Rydym yn falch o ddathlu cyflawniadau prentisiaid yn ystod Wythnos Prentisiaethau Cymru ac yn ailddatgan ein hymrwymiad i hyrwyddo’r llwybr hanfodol hwn ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr fel ei gilydd.”
Ynghyd ag NTFW, mae ColegauCymru yn falch o hyrwyddo mentrau fel y Ffair Brentisiaethau hon, sy’n dathlu cyflawniadau prentisiaid ac yn arddangos y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth greu Cymru gryfach, decach a mwy llewyrchus.
Gwybodaeth Bellach
Jeff Protheroe, Cynghorydd Strategol - Dysgu Seiliedig ar Waith a Chyflogadwyedd
Jeff.Protheroe@ColegauCymru.ac.uk