Roedd ColegauCymru yn falch iawn o gefnogi Gwobrau blynyddol Ysbrydoli! Addysg Oedolion Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru a gynhaliwyd ar 10 Medi yng Ngwesty’r Coal Exchange, Caerdydd.
Mae Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn dathlu cyflawniadau unigolion, teuluoedd, prosiectau cymunedol a sefydliadau eithriadol sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad ac egni rhagorol i wella eu hunain, eu cymuned neu weithle trwy addysg.
Mae'r Gwobrau hefyd yn amlygu effaith dysgu gydol oes yng Nghymru ac mae'n gyfle i ddangos gwerth buddsoddi mewn cyfleoedd i newid bywydau.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Rydym yn anfon ein llongyfarchiadau cynhesaf i holl enwebeion ac enillwyr y Gwobrau. Mae addysg oedolion yn galluogi pobl i gael yr hyder, y cymhelliant a’r modd i ailddechrau addysg i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio a ffynnu ar unrhyw adeg, sydd yn ei dro yn helpu i gefnogi ein cymunedau a’n heconomi.”
Enillwyr Gwobrau 2024
Enillydd Gwobr Sgiliau ar gyfer Gwaith
Isaac Fabb, Coleg Gŵyr Abertawe
Enillydd Gwobr Dysgu ar gyfer Gwell Iechyd
Eve Salter, Coleg Caerdydd a'r Fro
Enillydd Gwobr Oedolyn Ifanc
Sophie Dey, Grŵp Colegau NPTC
Gwobr Newid Bywyd a Dilyniant - Cymeradwyaeth Uchel
Lucy Willis, Coleg Caerdydd a’r Fro
Enillydd Gwobr Dechrau Arni - Dysgwyr Cymraeg
Daniel Minty, Cyn-ddysgwr Coleg Sir Gâr
Llongyfarchiadau gwresog i bawb!
Gwybodaeth Bellach
Darllenwch fwy o straeon ysbrydoledig y dysgwyr
Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion
10 Medi 2024
Darganfyddwch fwy am y cyfleoedd sydd ar gael:
Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk