Dathlu Merched mewn Arweinyddiaeth - Hannah Freckleton, Llywydd Undeb y Myfyrwyr, Coleg Sir Gâr

college.png


Wrth i ni barhau i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched, mae ColegauCymru yn falch iawn o dynnu sylw at lwyddiannau Hannah Freckleton, Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Sir Gâr. 

Mae Hannah yn cydbwyso ei hastudiaethau Safon Uwch â’i rôl arwain, gan ddangos ymroddiad i dwf personol ac ymgysylltu â’r gymuned. 

Yn ei rôl fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr, mae Hannah wedi bod yn allweddol wrth eiriol dros gynwysoldeb a dathlu diwylliannau amrywiol. Mae hi’n pwysleisio pwysigrwydd ysbrydoli ac annog ein gilydd i greu dyfodol lle mae pawb yn cael cyfle i ffynnu. 

Mae arweinyddiaeth ac eiriolaeth Hannah hefyd wedi cyfrannu at gynllunio strategol y coleg. Cyflwynodd adborth gan Undeb y Myfyrwyr ar y Cynllun Strategol, gan amlygu arwyddocâd cydweithio, cymuned a chynwysoldeb. Roedd ei dirnadaeth yn tanlinellu pwysigrwydd cryfhau cymuned y coleg a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg. 

Dywed Hannah, 

“Fel Llywydd benywaidd Undeb y Myfyrwyr, rwy’n angerddol am rymuso merched eraill i fod yn ddylanwad cadarnhaol o fewn cymuned y coleg a thu hwnt. Mae cael y cyfle i arwain wedi dangos i mi nad oes unrhyw derfynau ar arweinyddiaeth. Mae wedi rhoi’r hyder a’r sylweddoliad i mi nad yw bod yn ferch yn rhwystr. 

“Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig ein bod yn dathlu llwyddiant merched ac yn eu cydnabod am eu gwaith caled a’u cyflawniadau. Trwy ddyrchafu ac annog ein gilydd, gallwn greu dyfodol lle mae gan bawb gyfle i ffynnu.” 

Amlygir ei rhagoriaeth academaidd ymhellach gan ei llwyddiant diweddar o ennill gwobr ysgrifennu traethodau ym Mhrifysgol Rhydychen, sy'n dyst i'w hymroddiad a'i gwaith caled. 

Mae taith Hannah yn adlewyrchu effaith cofleidio treftadaeth ddiwylliannol rhywun a grym arweinyddiaeth wrth feithrin cymuned gynhwysol. Mae ei hymdrechion yn atseinio â gwerthoedd craidd ColegauCymru, gan ysbrydoli eraill i arwain gyda hyder a balchder diwylliannol. 

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched hyn, rydym yn dathlu cyfraniadau Hannah ac yn annog mwy o fenywod i gamu ymlaen, arwain, ac ysbrydoli eraill. 

Gwybodaeth Bellach 

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 
8 Mawrth 2025 

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.