Mae’n bleser gennym eich gwahodd i ddigwyddiad ar-lein i ddathlu’r ymweliadau tramor gwych sydd wedi’u cynnal eleni drwy brosiectau Erasmus+ a Chynllun Turing ColegauCymru.
Yn y sesiwn awr anffurfiol hon, bydd ein Rheolwr Prosiect Rhyngwladol, Sian Holleran, yn rhoi trosolwg o’r cyfleoedd gwych y mae dysgwyr coleg wedi’u cael ers mis Chwefror 2022, o ymweliad newid bywyd dysgwyr astudiaethau ceffylau ag un o ganolfannau marchogaeth gorau Sweden i fyfyrwyr ffotograffiaeth yn gwella eu sgiliau wrth deithio a phrofi diwylliant Sbaen.
Byddwn yn clywed gan ddysgwyr a bydd hefyd gennym rai awgrymiadau da ar drefnu ymweliadau gan un o'n cydlynwyr symudedd prysuraf.
Manylion y digwyddiad
Dyddiad: Dydd Mercher 6 Gorffennaf 2022
Amser: 2.30pm – 3.30pm
Lleoliad: Ar-lein - MS Teams
I gadarnhau eich presenoldeb, ebostiwch Vicky.Thomas@colegaucymru.ac.uk
Mae yna groeso i chi rannu’r gwahoddiad hwn o fewn eich sefydliad (staff a dysgwyr) i ysbrydoli eraill i gymryd rhan mewn prosiectau yn y dyfodol.
Edrychwn ymlaen at eich gweld ar 6 Gorffennaf. Yn y cyfamser, cysylltwch â Sian.Holleran@colegaucymru.ac.uk neu Vicky.Thomas@colegaucymru.ac.uk gydag unrhyw gwestiynau.