Heddiw yw Diwrnod Rhyngwladol y Merched - diwrnod byd-eang sy'n dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched.
Rydym yn falch bod y sector addysg bellach yng Nghymru yn cefnogi merched i gyflawni mewn cymaint o ffyrdd.
Yn yr astudiaeth achos hon, rydym yn dysgu sut mae profiad cadarnhaol dysgwr Coleg y Cymoedd Chloe Thomas o astudio mewn coleg a’r rhaglen brentisiaeth wedi arwain at yrfa lwyddiannus mewn diwydiant sy’n parhau i gael ei harwain gan ddynion.
Gobaith Chloe Thomas, 25 oed o’r Barri, ydy y bydd ei llwybr gyrfaol yn annog mwy o ferched i mewn i’r diwydiant Rheilffyrdd.
Ar ôl cwblhau ei Lefel A, ymrestrodd Chloe ar gwrs peirianneg awyrofod a daniodd ei diddordeb mewn peirianneg ac ar ôl gorffen y cwrs roedd ganddi’r hyder i gredu bod ganddi’r wybodaeth i ddilyn gyrfa yn y sector hwnnw.
A hithau’n awyddus i ddatblygu eu diddordeb mewn peirianneg, teimlai y byddai prentisiaeth yn cynnig y cyfle delfrydol i ddysgu wrth weithio ac roedd y diwydiant rheilffyrdd yn denu gan fod cymaint yn digwydd yn ardal De Cymru, yr oedd yn awyddus i fod yn rhan ohono.
Llwyddodd Chloe i sicrhau Prentisiaeth gyda 'Trafnidiaeth Cymru' (TfW), a mynychodd Coleg y Cymoedd, y coleg sy'n ddewis i TfW. Roedd ei phrofiad yn y coleg yn bositif iawn, gan ddarparu amgylchedd gwych gyda gweithdai a labordai modern. Roedd y cyfleusterau hyn yn llawn cyfarpar i weithredu tasgau ‘ymarferol’ megis adeiladu a phrofi cylchedau trydan a roddodd sail da i Chloe gynnal prosiectau yn ei rôl gyfredol.
Mae amrywiaeth y cyrsiau yn y coleg wedi caniatáu i Chloe wneud cynnydd dros gyfnod ei phrentisiaeth, gan gwblhau Lefel 3 NVQ mewn Stoc Tyniant a Rholio yn ogystal ag astudio Lefel 3 BTEC, HNC a HNC+ mewn Peirianneg Trydan ac Electroneg. Wedyn aeth ymlaen i gwblhau gradd Sylfaen ym Mhrifysgol De Cymru ac erbyn hyn, mae hi'n ei blwyddyn olaf o’i gradd BSc
Wrth sôn am ei phrentisiaeth, dywedodd Chloe, “Byddwn yn sicr yn argymell y brentisiaeth hon, ynghyd â chyrsiau’r coleg, mae’n ddull gwych o gychwyn gyrfa yn y diwydiant rheilffyrdd ac mae wedi rhoi’r addysg orau bosibl i mi, yn ogystal â swydd sy’n rhoi boddhad i mi.
Mae astudio yn eithriadol o bwysig, wrth fynychu coleg, rydych chi, nid yn unig yn cynrychioli’ch cwmni ond hefyd rydych yn gweithio tuag at eich dyfodol. Astudiais tra’n gweithio ar shifftiau dydd a nos, felly roedd yn bwysig i mi ddysgu sgiliau rheoli a threfnu er mwyn cadw reolaeth ar fy holl aseiniadau a pharatoi ar gyfer arholiadau, tra’n cadw’r cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd.
Mae cwblhau prentisiaeth wedi rhoi cyfle i mi fod yn llwyddiannus yn fy ngweithle. Ers cychwyn saith mlynedd yn ôl, rydw i wedi mynd y tu hwnt i fy uchelgais a fy nhargedau cychwynnol. O Brentis i Dechnegydd Cynnal a Chadw, hyd at fod yn Beiriannydd Cefnogi Fflyd, mae'n bendant yn swydd na fyddwn i ynddi heb fy mhrentisiaeth a’r cyrsiau a astudiais.
Mae gweithio mewn diwydiant a ddominyddir yn bennaf gan ddynion wedi cael effaith bositif ar fy uchelgais, gan mod i’n credu ei fod wedi gwneud i mi weithio’n galetach ac ymdrechu i gyrraedd yn uwch. Fi oedd y prentis cyntaf o ferch i weithio yn y depo yn Canton, a fy nghyngor i fyddai i chwalu’r stereoteip – peidiwch â gadael i’ch rhywedd eich rhwystro rhag sicrhau’r yrfa yr ydych yn ei dymuno.
Ers i mi gychwyn gyda TfW, mae dwy ferch arall wedi ymuno â’r cwmni fel prentisiaid ac mae’n wych eu gweld yn gwneud mor dda!