Mae staff ColegauCymru wedi bod yn awyddus i ymgymryd â her tîm, i ddod â chydweithwyr ynghyd yn ystod y cyfnod anodd hyn, ac i godi arian mawr ei angen ar gyfer elusen haeddiannol.
Ac felly, fe wnaethon ni gychwyn ar #Her344Challenge gyda'r nod o gyd-gerdded, rhedeg a beicio'r pellter rhwng ein holl golegau, 344 milltir! Rhoesom sialens i'n hunain i gyflawni'r sialens o fewn 7 diwrnod.
Gan ddechrau ddydd Llun 18fed Mai cychwynnodd ein llwybr rhithwir ym Merthyr Tudful yng Nghymoedd De Cymru gan orffen yng Ngogledd Ddwyrain Cymru yng Ngholeg Cambria, gan ddilyn y llwybr canlynol:
Y Coleg Merthyr Tudful - Coleg Gwent – Addysg Oedolion Cymru (Caerdydd) - Coleg Catholig Dewi Sant (Caerdydd) - Coleg Caerdydd a’r Fro - Coleg y Cymoedd - Coleg Penybont - Grŵp Colegau NPTC - Coleg Gŵyr Abertawe - Coleg Sir Gâr - Coleg Sir Benfro - Coleg Ceredigion - Grŵp Llandrillo Menai - Coleg Cambria.
Roedd yr her yn gyfle gwych i gefnogi ein helusen ddewisol, Marie Curie. Mae'r elusen hon yn gwneud gwaith gwych wrth iddynt ddarparu gofal a chefnogaeth i bobl sy'n byw gydag unrhyw salwch angheuol, a'u teuluoedd. Y llynedd fe wnaethant ofalu am dros 40,000 o bobl ledled y DU. Yn ystod yr amseroedd anodd hyn, pan bod ffrydiau incwm arferol elusennau fel Marie Curie yn dibynnu ar i gyflawni eu gwaith hanfodol bron wedi dod i ben, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysicach nag erioed eu cefnogi gyda'n her.
I ddechrau, gwnaethom osod targed codi arian o £200, ond rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd dros £1,000 (ac yn dal i gyfrif). Fe wnaethom hefyd ragori ar ein targed o 344 milltir, gan gyrraedd 435.16 milltir dros y 7 diwrnod.
Hoffai ColegauCymru ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi rhoi’n hael ac i’n holl gydweithwyr a gymerodd ran. Diolch yn arbennig hefyd i Jon Davies, aelod newydd o dîm ColegauCymru a gynigiodd y syniad codi arian ac a drefnodd yr her a'r elfen codi arian.
Gyda chymaint mwy o bobl yn dal i fod yn awyddus i gyfrannu at achos gwych hwn, rydym wedi penderfynu cadw'r dudalen rhoi ar agor ychydig yn hirach. Os hoffech gyfrannu i'r elusen haeddiannol iawn, Marie Curie, ewch i'r ddolen isod.