Mae'n bleser gan ColegauCymru longyfarch Tîm Lefel A Parth Dysgu Blaenau Gwent Coleg Gwent ar eu Gwobr Efydd ddiweddar yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson.
Wedi'i enwebu gan Bennaeth yr Ysgol, Suzanna Thomas, mae'r tîm wedi goresgyn yr her o ymgysylltu, cymell ac annog dysgwyr i wneud eu gorau, fel y gallant gymryd eu lle gyda'r dysgwyr mwyaf disglair yn y brifysgol, waeth beth fo'u cefndir. Mae Gwobr Tîm Addysg Bellach y Flwyddyn yn cydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wneir gan y staff addysgu ymroddedig ar Gampws Glynebwy Coleg Gwent a’r effaith gadarnhaol y maent wedi’i chael ar fywydau pobl ifanc yr ardal.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Llongyfarchiadau i Goleg Gwent ar y cyflawniad sylweddol hwn. Mae'n wych gweld, diolch i angerdd y tîm dros addysgu, fod dysgwyr wedi dod i'r amlwg dros yr 8 mlynedd diwethaf gyda graddau Safon Uwch yn llawer uwch na'u rhagfynegiadau gradd darged ac wedi mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion o'u dewis ledled y DU."
Ychwanegodd Mr Davies,
“Mae hyn yn dangos yn glir bod sefydliadau addysg bellach yng Nghymru yn darparu cyfleoedd gwych i ddysgwyr ôl-16, nid yn unig ar gyfer rhaglenni dysgu galwedigaethol a dysgu seiliedig ar waith, ond ar gyfer y rhai sy'n dewis dilyn llwybr academaidd.”
Dywedodd Llywydd Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson Michael Morpurgo,
“Mae'r gwaith rydych chi'n ei wneud - o ddydd i ddydd - yn gwella bywydau, yn newid bywydau... Rwy'n ysgrifennu atoch i longyfarch ac i ddiolch. Mae i blentyn gael athro gwych mor bwysig. Rydych chi'n agor drysau, yn tywynnu golau. Rydych chi'n trosglwyddo i blant bopeth rydych chi'n ei wybod ac yn ei garu... Felly, bravo chi, bravo!”
Gwybodaeth Bellach
Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson 2021