Mae ColegauCymru yn falch iawn o gael ei achredu fel cyflogwr Cyflog Byw.
Trwy dalu'r Cyflog Byw Go Iawn, mae cyflogwyr yn gwirfoddoli i sicrhau bod eu gweithwyr yn gallu ennill cyflog sy'n ddigon i fyw arno. Mae'r Cyflog Byw i Gymru yn ymdrech gydweithredol rhwng y Living Wage Foundation a Cynnal Cymru i hyrwyddo buddion achredu Cyflog Byw i gyflogwyr, gweithwyr a'r economi.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Rydym yn falch o fod yn ymuno â theulu cynyddol o gyflogwyr Cyflog Byw yn y sector addysg yng Nghymru.
Mae cydweithredu yn un o'n gwerthoedd yma yng ColegauCymru. Rydym wedi ymrwymo i ddiwylliant o waith tîm, partneriaeth a chydweithio i gyflawni ein gweledigaeth o addysg bellach o'r radd flaenaf. Heb weithlu sy'n cael ei dalu'n deg am y gwaith maen nhw'n ei wneud, ni fyddai'n bosibl i ni gyflawni hyn."
Mae'r Cyflog Byw Go Iawn yn seiliedig ar gostau byw a dyma'r unig gyfradd gyflog yn y DU sy'n cael ei thalu'n wirfoddol gan dros 7,000 o fusnesau yn y DU sy'n credu bod eu staff yn haeddu cyflog sy'n diwallu anghenion bob dydd, ac mae dros 300 ohonynt yng Nghymru.