Mae ColegauCymru yn falch o gyhoeddi cyllid o £300k ar gyfer y sector Addysg Bellach o Gronfa Bontio’r UE Llywodraeth Cymru. Bydd yr arian yn cefnogi tri phrosiect gwahanol sy'n mynd i'r afael ag anghenion amrywiol a newidiol cymunedau yng Nghymru. Bydd y prosiectau yn galluogi pob coleg yng Nghymru i ddysgu a rhannu o'r peilotiaid, a chynnig llwybrau newydd i ailsgilio, hyfforddi a pharhad mewn addysg alwedigaethol.
Mae Brexit, a newidiadau ehangach o fewn proses ddiwydiannol a busnes, yn gosod heriau newydd ac annisgwyl i'r cymunedau hyn. Bydd yr arian hwn yn galluogi tri Sefydliad Addysg Bellach (SAB), fel sefydliadau angor cymunedol, i ymateb i'r heriau hyn trwy baratoi a darparu addysg arloesol a hyblyg i oedolion.
Coleg Cambria, Coleg Penybont a Choleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion fydd lleoliadau'r prosiectau peilot. Mae pob coleg wedi’i leoli yn un o dair ardal y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (PSR) ac mae anghenion pob rhanbarth, fel y nodwyd yng nghynlluniau’r PSR, wedi bod yn bwynt cyfeirio allweddol ar gyfer prosiectau’r colegau.
Ochr yn ochr â heriau economaidd, bydd y prosiectau'n mynd i'r afael â newidiadau mewn patrymau cymdeithasol sy'n rhwystro cyfranogiad mewn addysg oedolion. Felly, bydd angen i'r hyfforddiant a'r gefnogaeth y mae'r colegau'n eu cynnig fod yn hyblyg ac yn gynhwysol. Hefyd, bydd yn rhaid iddynt ystyried amgylchiadau personol dysgwyr sy'n oedolion, a'r materion sy'n eu hwynebu, fel ymrwymiadau gofal plant a gofal yr henoed, a chydbwyso astudio ochr yn ochr â gwaith rhan amser.
Bydd Coleg Penybont yn targedu'r rhai sydd mewn perygl o gael eu diswyddo yn y diwydiant cerbydau modur trwy uwchsgilio mecanyddion hyfforddedig ar sut i gynnal a chadw cerbydau trydan. Bydd Coleg Sir Gâr / Coleg Ceredigion yn teilwra ei brosiect i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu’r rheini mewn ardaloedd gwledig i gael mynediad at hyfforddiant entrepreneuriaeth. Mae Coleg Cambria wedi cysylltu ei brosiect â sectorau blaenoriaeth sgiliau gweithgynhyrchu a digidol uwch yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
"Drwy Gronfa Bontio EU Llywodraeth Cymru, rwy'n falch ein bod yn gallu cefnogi'r tri choleg i helpu pobl leol i ennill sgiliau a chymwysterau newydd, fydd yn gallu ehangu opsiynau swyddi neu gallai hyd yn oed fod yn sbardun i yrfa newydd.
"Dysgu gydol oes yw un o'r blaenoriaethau yn y cytundeb blaengar rhyngof fi a'r Prif Weinidog ac mae’r rhaglen hon yn enghraifft o'n sector addysg bellach yn cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau newydd i gwrdd â newidiadau technolegol a'r heriau a achosir gan Brexit.”