Cynhadledd a Chinio Blynyddol ColegauCymru 2024: Llunio dyfodol Addysg Bellach yng Nghymru

231012_Colegau_Cymru_cynhadledd_flynyddol__001.jpg

Mae ColegauCymru yn falch iawn o gyhoeddi dychweliad ein Cynhadledd Blynyddol a gynhelir ar 24 Hydref yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gyda chinio cynhadledd y noson gynt yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd. 

Bydd Cinio’r Gynhadledd, a noddir gan Agored Cymru, yn clywed gan y darlledwr Jason Mohammad, a fydd yn rhannu myfyrdodau ar ei daith o’r coleg i’w yrfa ddisglair yn y cyfryngau. 

Mae’r Gynhadledd, a noddir gan City & Guilds, yn addo dod â 200 o randdeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant, o bob rhan o Gymru a thu hwnt, ynghyd i ddangos gwerth addysg bellach a rhannu syniadau am yr heriau sydd o’n blaenau. 

Meddai Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Mae Cynhadledd a Chinio Blynyddol ColegauCymru yn gyfle i fyfyrio ar gyflawniadau’r sector addysg bellach ac i gydweithio ar lunio gweledigaeth a rennir ar gyfer ein dyfodol. Gydag ymdrechion ar y cyd ein cydweithwyr, gallwn sicrhau bod addysg bellach yn parhau i chwarae rhan ganolog wrth rymuso dysgwyr a sbarduno adferiad economaidd a chynnydd cymdeithasol yng Nghymru.” 

Prif Anerchiad y Gynhadledd 

Rydym wrth ein bodd y bydd Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch Llywodraeth Cymru, Vikki Howells AS, Prif Economegydd Cymru, Dr Thomas Nicholls, a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, yn ymuno â ni fel y prif siaradwyr. 

Mae’r Gynhadledd yn cynnig cyfle i fyfyrio a rhwydweithio, ac yn hollbwysig, edrych i’r dyfodol gyda’n gilydd, wrth inni groesawu’r newidiadau trawsnewidiol sydd o’n blaenau yn y ffordd y caiff addysg ôl-16 ei llywodraethu a’i chyflwyno yng Nghymru. Bydd y Gynhadledd hefyd yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr ystyried beth sydd ei angen ar Gymru gan golegau yn y dyfodol, a sut y gallwn ymateb ar y cyd i’r anghenion sgiliau newidiol a gyflwynir gan megatrends byd-eang. Mae ColegauCymru wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y sector i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach. 

Gweithdai 

Bydd y gynhadledd yn cynnal amrywiaeth o sesiynau gweithdy yn archwilio themâu allweddol, gan gynnwys: 

  • Strategaethau ar gyfer Symud yn Rhydd: Ymagwedd y Ffindir at Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (VET) - Pwyntiau Dysgu i Gymru
     
  • Sut i Wella Ansawdd Dysgu mewn Model Trydyddol
     
  • Cynaliadwyedd Amgylcheddol Digidol mewn Addysg Bellach (Noddwyd gan Jisc)
     
  • Gwerth Cymdeithasol - Nawr ac yn y Dyfodol (Mewn Partneriaeth â Cwmpas)
  • Prentisiaethau sy’n Addas ar gyfer y Dyfodol – Trafodaeth Banel (Noddwyd gan Agored)

  • Partneriaeth Gymdeithasol ar gyfer y Dyfodol (Mewn Partneriaeth ag Undebau Llafur ar y Cyd)

  • Lles Actif ac Amgylcheddau Ffyniannus (mewn Cydweithrediad â Chwaraeon Cymru)

  • Addysg Cyfrwng Cymraeg: Y Chwarter Canrif Nesaf a Thu Hwnt (Mewn Partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac UCM Cymru)

Bydd cynrychiolwyr hefyd yn cael digon o gyfle i fynd o gwmpas ein gofod arddangos i rwydweithio a meithrin perthnasoedd gwerthfawr. 

Edrychwn ymlaen at groesawu cydweithwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ar 23 a 24 Hydref. 

Gwybodaeth Bellach 

Rhaglen y Gynhadledd 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.