Mae ColegauCymru yn falch o gyhoeddi penodiad David Hagendyk yn Brif Weithredwr ColegauCymru.
Bydd David yn gyfrifol am arwain ColegauCymru i sicrhau bod safbwyntiau’r sector addysg bellach yn cael eu clywed, bod manteision addysg bellach a sgiliau’n cael eu hyrwyddo a bod ein buddiannau cyfunol yn cael eu cynrychioli’n effeithiol. Bydd yn gweithio gydag arweinwyr sector a rhanddeiliaid allweddol, i ddylanwadu ar gyfeiriad strategol a siâp polisi, wrth arwain ymgyrchoedd lobïo ac ymgynghoriadau effeithiol.
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru Guy Lacey,
“Rwyf wrth fy modd bod David wedi derbyn rôl y Prif Weithredwr. Mae’n dod â gwybodaeth helaeth am bolisi ac addysg ôl-orfodol i’r rôl ar adeg pan fyddwn yn wynebu newid mawr. Gwn y bydd fy holl gydweithwyr yn y sector yn rhoi croeso cynnes iawn i David ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gydag ef.”
Ar hyn o bryd mae David yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cymru yn Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae’n gyfrifol am arwain gwaith y sefydliad yng Nghymru ac am hyrwyddo i’r llywodraeth a darparwyr gwasanaethau werth addysg oedolion a’r angen am fuddsoddiad a pholisïau i godi cynhyrchiant, gwella dilyniant o gyflog isel a lleihau anghydraddoldeb.
Mae David wedi gweithio mewn rolau arwain, ymgyrchu a datblygu polisi yng Nghymru am y deunaw mlynedd diwethaf. Cyn ymuno â Sefydliad Dysgu a Gwaith, bu’n gweithio am saith mlynedd fel Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru. Cyn hynny bu’n Swyddog Cyswllt Gwleidyddol Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru, fel Pennaeth Polisi Llafur Cymru, ac mae wedi gweithio fel ymchwilydd i Huw Lewis AC a Lynne Neagle AC.
Ychwanegodd David,
“Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi’n Brif Weithredwr newydd ColegauCymru ac yn edrych ymlaen at yr heriau sydd o’n blaenau. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r sector Addysg Bellach lle mae gennyf berthnasoedd gwaith cadarnhaol eisoes â llawer o gydweithwyr. Rwy’n awyddus i adeiladu ar y rhain wrth inni symud ColegauCymru a’r sector addysg bellach ymlaen. Rwy’n gwybod y byddaf yn gweithio gyda thîm gwych o bobl sy’n frwdfrydig am y rôl barhaus y gall addysg bellach ei chwarae mewn addysg yng Nghymru ac ar draws cymdeithas.”
Bydd David yn dechrau yn y rôl ar 30 Hydref 2022.