Mae ColegauCymru wedi ymateb i ymgynghoriad Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd ar Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru. Mae ein hymateb yn amlygu cyfraniad sylweddol colegau addysg bellach Cymru i bresenoldeb rhyngwladol y genedl ac yn amlinellu cyfleoedd ar gyfer mwy o aliniad rhwng y strategaeth a gweithgareddau byd-eang y sector addysg bellach.
Rôl Addysg Bellach wrth Hyrwyddo Cymru'n Rhyngwladol
Mae ColegauCymru Rhyngwladol wedi hyrwyddo cyfleoedd datblygu rhyngwladol ar gyfer dysgwyr a staff ers tro, gan sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli’n dda ar y llwyfan byd-eang. Ym mlwyddyn academaidd 2023/24 yn unig, cymerodd dros 1,200 o ddysgwyr addysg bellach ran mewn ymweliadau rhyngwladol ar draws 28 o wledydd, gyda phrosiectau'n amrywio o hyfforddiant galwedigaethol yn Nepal i leoliadau gwaith yng Nghanada. Yn ogystal, ymgymerodd bron i 100 o staff addysg bellach â chyfleoedd DPP rhyngwladol a ariannwyd drwy brosiectau megis y rhaglen cyfnewid dysgu rhyngwladol a ariennir gan Lywodraeth Cymru, Taith, gan gyfoethogi eu harbenigedd a dod â buddion yn ôl i gymunedau a cholegau Cymru.
Trwy Strategaeth Ryngwladoli ColegauCymru 2022 - 2026, rydym yn cefnogi datblygiad dinasyddion byd-eang trwy feithrin partneriaethau pwrpasol, ysbrydoli arweinyddiaeth, ac arddangos diwylliant ac iaith Cymru. Mae’r sector addysg bellach hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ddenu dysgwyr rhyngwladol, yn enwedig ar gyfer astudio Safon Uwch, ac yn cyfrannu at ymdrechion cyfnewid diwylliannol ac economi Cymru.
Meysydd i'w Gwella yn y Strategaeth Ryngwladol
Er ein bod yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i sefydlu dull cydlynol o ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol, nid yw’r Strategaeth Ryngwladol bresennol yn rhoi digon o bwyslais ar gyfraniad addysg bellach. Mae ColegauCymru wedi argymell y gwelliannau canlynol:
- Cydnabod ‘Cymell tawel’ Addysg Bellach Cydnabod sut mae pob sector addysg, gan gynnwys addysg bellach, yn dyrchafu proffil rhyngwladol Cymru;
- Cynnwys colegau addysg bellach Gosod sefydliadau addysg bellach fel canolfannau â chysylltiadau byd-eang sy’n cryfhau enw da Cymru yn rhyngwladol; ac
- Amlygu Straeon Llwyddiant Dathlu cyflawniadau fel perfformiad Cymru mewn cystadlaethau WorldSkills, gan arddangos hyfforddiant sgiliau o ansawdd uchel i ddenu buddsoddiad.
Adeiladu Partneriaethau Byd-eang
Mae partneriaethau ColegauCymru wedi cael effeithiau diriaethol. Mae’r rhain yn cynnwys:
Canada Cydweithiodd Coleg Sir Benfro â Choleg Newfoundland Gogledd yr Iwerydd ar brosiectau ynni adnewyddadwy a menywod mewn peirianneg, gan arwain at ddatblygiadau mewn hyfforddiant hydrogen ac ynni gwynt yng Nghymru.
Y Ffindir Galluogodd prosiect diwygio galwedigaethol a ariannwyd gan Taith arweinwyr addysg bellach Cymru i gyfnewid arbenigedd gyda chymheiriaid yn y Ffindir, gan wella datblygiad polisi a chwricwlwm ac adroddiad a gomisiynwyd yn annibynnol a oedd yn galw am strategaeth VET bwrpasol i Gymru.
Namibia Cyfrannodd Coleg y Cymoedd at brosiect bioamrywiaeth drwy ddatblygu dyfeisiau monitro acwstig ar gyfer ymdrechion cadwraeth, gan adlewyrchu ymrwymiad y sector i gynaliadwyedd byd-eang.
Edrych Ymlaen
Mae ColegauCymru yn galw am integreiddio addysg bellach yn well yn ei strategaeth ryngwladol ac i flaenoriaethu cyllid hirdymor ar gyfer rhaglenni symudedd megis Taith a Chynllun Turing a ariennir gan Lywodraeth y DU. Mae'r mentrau hyn yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau a dyheadau byd-eang ymhlith dysgwyr a staff.
Y tu hwnt i 2025, mae’r sector addysg bellach yn rhagweld strategaeth sy’n:
- cryfhau ymgysylltiad rhanddeiliaid ar draws sectorau;
- ehangu cyfleoedd i addysg bellach gymryd rhan mewn dirprwyaethau masnach a chydweithio rhyngwladol; ac yn
- cysylltu blaenoriaethau economaidd a rhyngwladol, yn enwedig mewn sgiliau gwyrdd a diwydiannau cynaliadwy.
Drwy alinio ei strategaeth â chyfraniadau eang colegau addysg bellach, gall Llywodraeth Cymru sicrhau dull cydlynol o hyrwyddo diwylliant, sgiliau ac economi Cymru ar lwyfan y byd.
Gwybodaeth Bellach
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd
Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru
Am wybodaeth bellach am ein gweithgareddau rhyngwladol, cysylltwch â’r Rheolwr Prosiect, Siân Holleran:
Siân Holleran, Rheolwr Prosiect Rhyngwladol
Sian.Holleran@ColegauCymru.ac.uk
Clare Williams, Swyddog Polisi
Clare.Williams@ColegauCymru.ac.uk