Mae ColegauCymru yn nodi ei ymrwymiad i weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ond mae'n rhybuddio bod yn rhaid i'r ddeddfwriaeth arfaethedig fod yn addas at y diben, cynnig newid gwirioneddol ac agor llwybrau dysgu galwedigaethol i sgiliau uwch.
Mewn datganiad i Aelodau’r Senedd ddoe, amlinellodd y Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, amlinellodd Jeremy Miles AS, gynlluniau Llywodraeth Cymru i ailwampio rheoleiddio, cyllido a chynllunio addysg ôl-16. Cadarnhaodd, yn amodol ar gymeradwyo'r bil, y byddai colegau addysg bellach, dosbarthiadau’r chweched mewn ysgolion, prifysgolion a phrentisiaethau i gyd yn cael eu rheoleiddio a'u hariannu gan Gomisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY).
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Fel elusen ac fel corff cynrychioliadol, rydym yn ymrwymo i weithio gyda’r Gweinidog i ailwampio cynllunio, cyllido a darpariad addysg ôl-16 yng Nghymru.
“Mae'r bil hwn yn golygu newidiadau sylfaenol i reoleiddio addysg i bob dysgwr ôl-16 yng Nghymru. Rhaid i'r bil roi colegau a dosbarthiadau’r chweched mewn ysgolion ar sail fwy cyfartal, a darparu gwell mynediad at gymwysterau technegol a galwedigaethol lefel uwch, gan hefyd amlinellu sut y bydd addysg oedolion yn cael ei wella.”
Mae ColegauCymru yn cydnabod yr angen clir i newid y ffordd y mae addysg ôl-16 yn cael ei darparu yng Nghymru, yn enwedig o ystyried effaith economaidd a chymdeithasol Brexit a phandemig Covid19. Gyda gweithleoedd yn newid yn gyflym, mae cyflogwyr yn chwilio’n fwy am hyblygrwydd ac amrywiaeth o ran sgiliau ar gyfer y gweithlu maen nhw'n eu cyflogi a bydd angen i newidiadau i addysg ôl-orfodol adlewyrchu'r datblygiadau hyn. Mae hyn yn golygu ei gwneud hi'n haws i golegau ddarparu cymwysterau lefel 4 a 5 y mae cyflogwyr yn aml yn ceisio amdanynt.
Fodd bynnag, rhybuddiodd Mr Davies fod yn rhaid i'r ddeddfwriaeth arfaethedig fod yn addas at y diben.
Ychwanegodd Mr Davies,
“Mae'n hanfodol bod y bil hwn yn addas at y diben. Rydym nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod llwybrau dilyniant addas o'r ysgol hyd at addysg bellach, cymwysterau galwedigaethol a thechnegol ac ymhellach, i addysg uwch neu i gyflogaeth yn bosibl o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth. Rydym yn annog holl aelodau’r Senedd i ystyried yn ofalus ac yn fanwl i ba raddau y mae’r bil yn wirioneddol addas at y diben a mynd i’r afael â’r pryderon y mae’r Gweinidog wedi’u hamlinellu yn ei ddatganiad i’r Cyfarfod Llawn.”
Mae ColegauCymru yn annog Aelodau'r Senedd i graffu’n ofalus ar sut y bydd y bil yn hwyluso sefydliadau a darparwyr i annog dinasyddiaeth fwy ymgysylltiedig a mynd i'r afael â llawer o heriau parhaus allgáu cymdeithasol a symudedd cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi unigolion i swyddi â chyflog gwell a mwy medrus.
Mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru a'n rhanddeiliaid i ddwyn bil ymarferol, un sy'n rhoi cyfle teg i bob dysgwr ar gyfer ei addysg, waeth beth yw'r llwybr y maen nhw'n dewis ei ddilyn.
Gwybodaeth Bellach
Datganiad Cabinet Llywodraeth Cymru
Datganiad Ysgrifenedig: Cyflwyno Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru)
1 Tachwedd 2021