ColegauCymru yn llongyfarch tîm newydd blaenllaw Llywodraeth Cymru

Senedd - Julian Nyča - CC BY-SA.jpg

Mae Prif Weinidog Cymru wedi penodi Cabinet newydd i Lywodraeth Cymru. 

Mae Lynne Neagle MS yn parhau yn ei rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gyda Vikki Howells AS wedi ei phenodi yn Weinidog Addysg Bellach ac Uwch yn ymuno â hi. Mae Rebecca Evans AS yn symud ymlaen o Gyllid, gan gymryd y briff yr Economi, Ynni a Chynllunio. Mae Jack Sargeant AS yn ychwanegu at ei bortffolio, ac sydd bellach yn Weinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, Dave Hagendyk, 

“Ar ran ColegauCymru, hoffwn estyn ein llongyfarchiadau i’r tîm cyfan a benodwyd gan y Prif Weinidog, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â Lynne Neagle, Vikki Howells a Jack Sargeant. 

Er bod pwysau sylweddol yn parhau ar y pwrs cyhoeddus, mae'n hollbwysig ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i ddarparu system sy'n gweithio i'n dysgwyr, cymunedau a chyflogwyr. 

Mae gennym gyfle gwirioneddol yn awr i ddatblygu strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol i Gymru, gan roi dysgwyr wrth galon y system, a sicrhau ein bod yn adfer y cyllid hanfodol, hirdymor ar gyfer prentisiaethau wrth inni geisio tyfu ein heconomi. 

Fodd bynnag, gyda nifer o Weinidogion ac Ysgrifenyddion y Cabinet yn gyfrifol am agweddau ar bolisi a chyflawni, mae'n hanfodol eu bod yn cydweithio mewn ffordd gyd-gysylltiedig. Mae hyn yn golygu adeiladu llwybr 14-19 cydlynol, datblygu cynllun ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, gwerthfawrogi a buddsoddi mewn prentisiaethau, ac adeiladu system gyfan sy’n canolbwyntio ar ddysgu gydol oes. 

Rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru gryfach, wyrddach a thecach”. 

Gwybodaeth Bellach 

Datganiad Cabinet 
Datganiad Ysgrifenedig: Llywodraeth newydd yn cyflawni dros Gymru 
11 Medi 2024 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.