ColegauCymru yn ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd newydd

Meeting Table.jpg

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ethol Pennaeth a Phrif Weithredwr Y Coleg Merthyr Tudful, Lisa Thomas, yn Gadeirydd ColegauCymru, gyda Phennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion, Dr Andrew Cornish, wedi’i benodi i rôl Is-Gadeirydd. 

Wrth inni barhau i lywio cyfnod heriol i’r sector, edrychwn ymlaen at weithio gyda Lisa, Andrew a chydweithwyr i sicrhau bod gan golegau’r cyllid cynaliadwy sydd ei angen arnynt i ddarparu’r cyfleoedd a’r cymorth gorau posibl i’n dysgwyr a’n staff. 

Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk, 

“Wrth i ni groesawu Lisa ac Andrew i’w rolau newydd, rydym wedi ymrwymo i barhau â’r gwaith i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr, staff a chyflogwyr fel ei gilydd. 

Rydym yn ddiolchgar i’r cyn Gadeirydd Guy Lacey am ei ymrwymiad, ei waith caled a’r marc annileadwy y mae’n ei adael ar addysg yng Nghymru, a dymunwn y gorau iddo yn ei ymddeoliad.” 

Lisa Thomas

Penodwyd Lisa yn Brif Weithredwr a Phennaeth Y Coleg Merthyr Tudful yn 2018 yn dilyn pedair blynedd fel Pennaeth Cynorthwyol. 

Wedi dechrau ei gyrfa fel athrawes hanes, mae Lisa’n elwa ar dros 25 mlynedd o brofiad o rolau arwain a rheoli o fewn addysg uwchradd ac addysg bellach a llywodraeth leol. Fel aelod o ColegauCymru, mae Lisa wedi cynrychioli’r sector mewn nifer o weithgorau Llywodraeth Cymru ac wedi chwarae rhan ddylanwadol wrth lunio polisi’r llywodraeth ar y sector addysg bellach yng Nghymru. Mae hi hefyd yn Arolygydd Cymheiriaid Estyn profiadol. Yn fwy diweddar mae Lisa wedi bod yn Gadeirydd ar gyfer Rhwydwaith Cyfarwyddwyr Adnoddau Dynol ColegauCymru a Phwyllgor Negodi Addysg Bellach Cymru (WNCFE). 

Andrew Cornish

Yn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, (rhan o Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), dechreuodd Andrew ar ei addysg yn Ysgol Gyfun Maesteg lle bu’n astudio Safon Uwch cyn symud ymlaen i astudio gradd anrhydedd mewn ffiseg o Brifysgol Lerpwl ac yna PhD mewn ffiseg ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Mae Andrew yn aelod o’r Sefydliad Ffiseg (CPhys MinstP) ac mae wedi gweithio fel asesydd cymheiriaid i Estyn ers bron i 20 mlynedd, yn asesu safonau colegau addysg bellach eraill yng Nghymru. 

Fel Pennaeth, mae’n aelod o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn Sir Gaerfyrddin a Cheredigion ac yn eistedd ar Fwrdd Pentref Llesiant Llanelli. Mae wedi gweithio ym maes Addysg Bellach ers dros 25 mlynedd, gan ddal ystod eang o swyddi addysgu, rheoli ac arwain yn y cyfnod hwnnw. 

Gwybodaeth Bellach 

Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu 
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk  

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.