Codwyd pryderon ynglŷn â baich gwaith yn yr arolwg gweithlu addysg genedlaethol yn 2021. Ers hynny mae’r Grŵp Llywio Baich Gwaith Cenedlaethol (Cyd-Undebau Llafur, ColegauCymru a Llywodraeth Cymru) wedi ymgymryd â gwaith i ymateb i’r pryderon hynny.
Erbyn hyn, mae’r grŵp eisiau asesu’r cynnydd a wnaed hyd yn hyn ac wedi gofyn i CGA ymgymryd â’r arolwg hwn i helpu mesur faint sydd wedi ei gyflawni ac, am y tro cyntaf, yn cynnwys ymatebion gweithwyr cymorth busnes.
Bydd cwblhau'r arolwg yn ein helpu i gael darlun cyflawn o brofiadau a phryderon cyfredol. Bydd bob ymateb yn cael ei ddarllen a’i ddadansoddi a po uchaf yw’r nifer o ymatebion, y mwyaf o dystiolaeth fydd gennym i helpu i ddeall a mynd i’r afael â phryderon baich gwaith.
Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Gwener 31 Mawrth 2023. Mae ymatebion yn gyfrinachol. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 20 munud i’w gwblhau.
Gallwch gwblhau'r arolwg yma
Gwybodaeth Bellach
Cyngor y Gweithlu Addysg
Mae arolwg cenedlaethol addysg bellach a dysgu yn seiliedig ar waith 2023 wedi cael ei ryddhau
17 Ionawr 2023
Kelly Edwards, Cyfarwyddwr Datblygu ColegauCymru
Kelly.Edwards@ColegauCymru.ac.uk