ColegauCymru'n cyhoeddi adroddiad ar y gwaith o gyfeirio rhwng FfCChC a'r fframwaith cymwysterau Ewropeaidd (FfCE)

Mae ColegauCymru’n falch o gyhoeddi adroddiad heddiw sy’n trafod y broses o gyfeirio rhwng Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (FfCChC) a’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (FfCE).   

Fframwaith cyfeirio cyffredin yw’r FfCE a’i ddiben yw sicrhau bod modd deall cymwysterau’n well mewn gwahanol wledydd a systemau, a hynny o fewn Ewrop a’r tu hwnt.  Bydd yr adroddiad yn helpu i gydnabod cymwysterau Cymru dramor, a bydd yn hwyluso symudedd dysgwyr a gweithwyr o Gymru sydd am hyfforddi, astudio a gweithio mewn nifer o wledydd gwahanol.   

Meddai Iestyn Davies, Prif Weithredwr ColegauCymru

“Yn y cyfnod ansicr hwn, mae’n bwysig bod Cymru’n parhau’n gystadleuol yn fyd-eang. Drwy gomisiynu’r adroddiad hwn, mae ColegauCymru’n dangos pwysigrwydd rhoi sicrwydd i gwmnïau sy’n awyddus i fuddsoddi’n uniongyrchol o dramor bod modd cymharu safonau proffesiynol yng Nghymru â safonau eraill o amgylch y byd.”

Mae ColegauCymru’n gweithredu ar ran Llywodraeth Cymru fel y Pwynt Cydlynu Cenedlaethol yng Nghymru ar gyfer y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (FfCE), y System Credydau Ewropeaidd ar gyfer Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (ECVET) a’r Dull Ewropeaidd o Sicrhau Ansawdd Addysg a Hyfforddiant Galwedigaethol (ECAVET).   

Meddai Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg,

 "Bydd y gwaith hwn yn hwb i dryloywder a phrosesau cymharu, a bydd o fudd i’n heconomi drwy ei gwneud hi’n haws i weithwyr a myfyrwyr Cymru gael profiad o weithio dramor. Bydd hefyd yn gwella gallu cyflogwyr i fanteisio ar weithlu rhyngwladol medrus. Rwy’n falch iawn o weld bod cymwysterau Cymru’n cyd-fynd â’r cymwysterau cyfatebol Ewropeaidd, a bydd hyn yn ei gwneud yn haws o lawer i gydnabod a chymharu cymwysterau o Gymru.”

Roedd statws ColegauCymru fel Pwynt Cydlynu Cenedlaethol yn ei alluogi i gael cyllid grant gan yr Undeb Ewropeaidd i gomisiynu a chyhoeddi’r adroddiad hwn. Bu Cymwysterau Cymru, Llywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) a rhanddeiliaid pwysig eraill yn gweithio’n agos gyda ColegauCymru wrth ddrafftio’r adroddiad hwn. At hynny, cafwyd sylwadau gan arbenigwyr o’r Deyrnas Unedig ac arbenigwyr rhyngwladol.   

Meddai Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru, 

“Rydym wrth ein boddau o fod wedi gwneud y gwaith cyfeirio ar ran ColegauCymru. Mae’n cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod cyflawniadau dysgwyr yn gludadwy yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol. Fel y gwelir yn yr adroddiad hwn, mae system gymwysterau Cymru’n rhoi cymwysterau dibynadwy a chymaradwy y gall dysgwyr, addysgwyr a chyflogwyr eu deall yn rhwydd, a hynny yng Nghymru a’r tu hwnt.”

Meddai Dr David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC, 

“Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda’n partneriaid yn y maes pwysig hwn i sicrhau bod modd deall cymwysterau Cymru’n rhwydd ledled Ewrop, yn unol â’r Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd. Mae’r adroddiad hwn yn golygu y gall dysgwyr a gweithwyr fod yn hyderus bod cymwysterau a enillir yng Nghymru yn cyd-fynd â’r rheini mewn gwledydd Ewropeaidd eraill, a’n gobaith yw y bydd hyn yn helpu wrth hwyluso llwybrau pobl o amgylch Ewrop.”

Adroddiad llawn yn Saesneg yn unig.

Crynodeb Gweithredol

I weld a chymharu fframweithiau cymhwysterau gwledydd eraill ewch ihttps://ec.europa.eu/ploteus/en/referencing-reports-and-contacts

I gael rhagor o wybodaeth am ddysgu a sgiliau yn Ewrop ewch ihttps://ec.europa.eu/ploteus/en

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.