ColegauCymru yn ymateb i Ddatganiad Cabinet ar Gyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)

senedd.jpg

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) gerbron y Senedd. Nod y Bil yw helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, gyda’r nod o sicrhau bod pob disgybl yn defnyddio’r Gymraeg yn annibynnol, o leiaf, erbyn iddynt gyrraedd diwedd oedran ysgol gorfodol.

Dywedodd Prif Weithredwr Dros Dro ColegauCymru, Kelly Edwards,

“Mae’r sector addysg bellach yn cofleidio gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg ac mae’r Bil hwn yn gam pwysig ar ein taith gyda’n gilydd. Wrth inni gloriannu manylion y Bil, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae cefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru i golegau yn hanfodol i gyflawni’r uchelgais o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Rydym yn falch o lwyddiant parhaus dysgwyr a staff ein colegau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y momentwm hwn”.

Gwybodaeth Bellach

Datganiad Cabinet
Datganiad Ysgrifenedig: Cyflwyno Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
15 Gorffennaf 2024

Llywodraeth Cymru
Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Gorffennaf 2024

Amy Evans, Swyddog Polisi
Amy.Evans@ColegauCymru.ac.uk

Dilynwch Ni

Dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol ar gyfer diweddariadau.