Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Gyllideb Derfynol ar gyfer 2025/26.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
“Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Gyllideb Derfynol heddiw gan Lywodraeth Cymru ond bydd yn flwyddyn ariannol heriol arall i golegau wrth i nifer y dysgwyr yn y sector barhau i dyfu. Mae colegau eisoes yn cyflawni ar draws blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn enwedig cefnogi swyddi gwyrdd a thwf, ac yn barod i wneud mwy ond mae angen ymrwymiad hirdymor i dwf cynaliadwy mewn cyllid.
Rydym yn croesawu’r cynllun peilot ar gyfer pobl ifanc 21 oed ac iau i dalu dim ond £1 am docyn bws sengl yng Nghymru. Mae hyn yn dangos cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o’r pwysau cynyddol ar golegau o ran cludo dysgwyr i’r coleg a hefyd, lle bo angen, i leoliadau gwaith sy’n rhan o raglen astudio. Mae hwn yn gam cadarnhaol i sicrhau bod mwy o ddysgwyr yn gallu teithio ar fws i'r coleg ond bydd angen i golegau ystyried y manylion i ddeall yr effaith lawn ar ddysgwyr.
Er yr ydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa heriol yn ariannol, ni fu cymorth ar gyfer addysg ôl-16 a phrentisiaethau erioed mor bwysig. Mae addysg bellach a phrentisiaethau yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru, a chyda chysylltiadau cryf â diwydiant, bydd y llwybrau hyn yn helpu i ddarparu’r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr allu cychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus.
Mae buddsoddi yn ein dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau yn hanfodol ar gyfer creu cronfa o dalent ar gyfer heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Cytundeb y gyllideb yn sicrhau £100m yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus
20 Chwefror 2025
Polisi a Strategaeth Llywodraeth Cymru
Cyllideb Derfynol 2025 i 2026
20 Chwefror 2025
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk