Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amrywiaeth o doriadau ariannol i’r sector addysg, gan gynnwys prentisiaethau yn dilyn pwysau digynsail sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus. Bydd cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys chwyddiant parhaus a record a mwy na degawd o lymder, yn gweld addysg bellach yn dwyn toriad sylweddol o £8.5m, a chyllid prentisiaethau a arweinir gan alw yn dwyn toriadau o £17.5m.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
"Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa heriol yn ariannol, ni fu cymorth ar gyfer addysg ôl-16 a phrentisiaethau erioed mor bwysig.
"Mae prentisiaethau’n hanfodol i adferiad economaidd Cymru, a gyda chysylltiadau cryf â diwydiant, bydd y llwybrau hyn yn helpu i gyflwyno’r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr allu cychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus. Mae buddsoddi mewn prentisiaethau yn helpu busnesau i dyfu, llenwi bylchau sgiliau, a chreu cronfa o dalent ar gyfer heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
"Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n debygol y bydd penderfyniadau anoddach fyth i ddod ac mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd prentisiaethau a cholegau addysg bellach i’n dyfodol economaidd ac i’r adferiad o’r pandemig."
Gwybodaeth Bellach
Llywodraeth Cymru
Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2023-24
Lucy Hopkins, Rheolwr Cyfathrebu
Lucy.Hopkins@ColegauCymru.ac.uk