Mae ColegauCymru wedi nodi sut mae addysg bellach a phrentisiaethau yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru yn ei ymateb i Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.
Dywedodd Prif Weithredwr ColegauCymru, David Hagendyk,
"Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa heriol yn ariannol, ni fu cymorth ar gyfer addysg ôl-16 a phrentisiaethau erioed mor bwysig.
Mae addysg bellach a phrentisiaethau yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru, a chyda chysylltiadau cryf â diwydiant, mae'r llwybrau hyn helpu i gyflwyno'r sgiliau angenrheidiol i ddysgwyr allu cychwyn ar yrfaoedd llwyddiannus.
Mae buddsoddi yn ein dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau yn hanfodol er mwyn creu cronfa o dalent ar gyfer heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yr cymdeithas decach, wyrddach, gryfach yr ydym i gyd ei heisiau."
Gwybodaeth Bellach
Ymgynghoriad Pwyllgor Cyllid y Senedd
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Rachel Cable, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus
Rachel.Cable@ColegauCymru.ac.uk