Mae ColegauCymru yn croesawu'r ymrwymiadau i fynd i'r afael ag addysg dechnegol a galwedigaethol o fewn y Cytundeb Cydweithio uchelgeisiol.
Heddiw mae ColegauCymru wedi croesawu’r ymrwymiadau allweddol a nodwyd gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price a’r effaith gadarnhaol bosibl y gallai’r Cytundeb ei chael ar ddarpariaeth addysg dechnegol a galwedigaethol yn y dyfodol.
Mae ffocws ar ehangu mewn dysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol y gweithlu yn allweddol i'r Cytundeb ar addysg ôl-16. Mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at weld mwy o fanylion am yr agendâu hyn dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Ymhlith y meysydd arwyddocaol y Cytundeb Cydweithio heddiw mae:
Diwygio Cymwysterau
Mae'r Elusen wedi'i chalonogi gan yr ymrwymiad i ddiwygio cymwysterau ac i gyflawni cymwysterau galwedigaethol a wnaed yng Nghymru i gyd-fynd ag anghenion ein dysgwyr a'r economi. Mae'n ofynnol i ddiwygio cymwysterau, ac yn benodol cyflwyno cymwysterau galwedigaethol lefel uwch, er mwyn symud tuag at wir gydraddoldeb rhwng llwybrau astudio academaidd a galwedigaethol/technegol.
Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Mae ColegauCymru yn croesawu ymrwymiad y Cytundeb ymhellach i fwrw ymlaen â Mesur y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CTER) ‘i rymuso darparwyr addysg i fod yn rhan o sector amrywiol, ystwyth a chydweithredol sy’n cyflawni ar gyfer dysgwyr, cyflogwyr a chymunedau’.
Dywedodd Cadeirydd ColegauCymru, Guy Lacey,
“Mae'r sector addysg bellach yng Nghymru wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ailwampio cynllunio, cyllido a darparu addysg ôl-16 yng Nghymru. Bydd yn hanfodol craffu’n briodol ar y Bil fel bod fframwaith cyfreithiol cynaliadwy yn cael ei sefydlu a bod maes chwarae teg i bob dysgwr ôl-orfodol yn cael ei ddarparu.
Safonau Iaith Cymraeg
Mae'r Cytundeb yn mynd ymlaen i ymrwymo ymhellach i weithredu'r Safonau Cymraeg yn llawn a'r buddsoddiad yng Ngholeg Cymraeg Cenedlaethol a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dysgu Cymraeg i gynyddu nifer y prentisiaethau Cymraeg a dysgu Cymraeg am ddim i bobl ifanc 16 - 25 oed.
Ychwanegodd Prif Weithredwr ColegauCymru Iestyn Davies,
“Mae'r ymrwymiadau a wneir yn y Cytundeb yn gydnabyddiaeth glir gan Lywodraeth Cymru a Plaid Cymru o'r angen i ddarparu cyfle cyfartal i ddysgwyr a dinasyddion ôl-orfodol Cymru, waeth beth fo'u cefndir neu'r llwybr astudio dewisiol. Bydd yr addewidion a amlinellir yn ein helpu i gynorthwyo dysgwyr i ddod yn ddinasyddion gwerthfawr p'un ai mewn gwaith neu mewn cymdeithas yn ehangach a fydd yn ei dro yn caniatáu Cymru lewyrchus."
Gwybodaeth Bellach
Datganiad i'r Wasg Llywodraeth Cymru
Cytundeb uchelgeisiol i sicrhau diwygio radical a newid
22 Tachwedd 2021