Mae ColegauCymru yn falch o gefnogi ceisiadau ERS Cymru o flaen Etholiadau Senedd y flwyddyn nesaf.
Rydym yn croesawu’n benodol y weledigaeth o weithio tuag at Senedd gryfach a mwy amrywiol, a’r gydnabyddiaeth o bwysigrwydd gwella addysg wleidyddol pobl ifanc yng Nghymru - yn enwedig yng nghyd-destun deddfau newydd sy’n gostwng yr oedran pleidleisio ar gyfer Etholiadau Senedd 2021.
Dywedodd Dr Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus,
“Rydym yn croesawu’r symudiad i bobl ifanc 16 a 17 oed gael y cyfle i chwarae rhan weithredol yng nghyfeiriad eu dyfodol gan obeithio y byddant yn bachu ar y cyfle i leisio eu barn.”
Mae ColegauCymru yn edrych ymlaen at weithio gydag ERS Cymru i annog niferoedd cynyddol o bobl o bob oed i chwarae eu rhan mewn cymdeithas sifil a gyda'i gilydd i lunio dyfodol cadarnhaol a chynhwysol i Gymru.
Gwybodaeth Bellach
ERS Cymru: Maniffesto ar gyfer Democratiaeth
Senedd sy'n Gweithio i Gymru
Llun gan Julian Nyča / CC BY-SA